Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid eu hunain yn eu harswydo cymmaint. Ond cyn pen nemor, dyma Glarc y Goron yn eu galw hwy wrth eu henwau, fel y canlyn: 'Meistr Medleiwr,[1] alias[2] Bys ym mhob Brywes.' Yr oedd hwn mor chwidr a phrysur yn fforddio'r lleill, nad oedd e'n cael mo'r ennyd i ateb trosto ei hun, nes Angeu fygwth ei hollti â'i saeth. Yna, 'Meistr Enllibiwr, alias Gelyn y Geirda.' Dim ateb. Mae e'n orchwylus[3] glywed ei deitlau,' eb y trydydd, 'nis gall aros mo'r llysenwau.' 'Ai tybied,' eb yr Enllibiwr, 'nad oes deitlau i chwithau?' 'Gelwch,' ebr ef, Meistr Rhodreswr Meldafod, alias Llyfn y Llwne, alias Gwên y Gwenwyn.' 'Redi,'[4] ebr merch oedd yno, tan ddangos y Rhodreswr. O,' ebr yntau, Madam Marchoges! eich gwasanaethwr tlawd; da genyf eich gweled yn iach, ni welais i erioed ferch harddach mewn clos;[5] ond, och feddwl druaned yw'r wlad ar eich ol am lywodraethwraig odiaeth! eto eich cwmni hyfryd chwi a wna uffern ei hun yn beth gwell.' 'O fab y fall fawr!' ebr hi; 'nid rhaid i neb gyda thi yr un uffern arall; yr wyt ti yn ddigon.' Yna galwodd y criwr, 'Marchoges, alias Meistres y Clos.' 'Redi,' eb rhywun arall; ond hi ni ddywedodd air, eisieu ei galw hi Madam. Yn nesaf, galwyd Bwriadwr Dyfeisiau, alias Sion o bob Crefft. Ond ni atebai hwnw chwaith; yr oedd ef yn prysur ddyfeisio'r ffordd i ddianc rhag Gwlad yr Anobaith. Redi, redi,' ebr un o'i ol; 'dyna fo yn ysbio lle i dori eich breninllys, ac oni wiliwch, mae ganddo gryn ddyfais i'ch erbyn.' Ebr y Bwriadwr, 'Gelwch yntau, yn rhodd, Meistr Cyhuddwr ei Frodyr, alias Gwyliwr y Gwallau, alias Lluniwr Achwynion.' 'Redi, redi, dynia fo,' ebr Cecry Cyfreithgar; canys gwyddai bob un henw'r llall, ond ni addefai neb mo'i henw ei hunan. 'Gelwch chwithau,'[6] ebr Cyhuddwr, 'Meistr Cecryn Cyfreithgar, alias Cwmbrus y Cyrtiau,"[7] "Tystion, tystion o honoch, fel y galwodd y cnaf fi,' ebr Cecryn. 'Hai, hai,' ebr Angeu, 'nid wrth y bedyddfaen, ond wrth y beiau, yr henwir pawb yn y wlad yma; a thrwy eich cenad, Meistr

  1. Meddler: ymyrwr, dyn ymyrgar, ymhelwr
  2. 'Alias'=gair Lladin, arferedig yn aml yn y gyfraith, yn dynodi, neu amgen, fel arall, mewn modd arall.
  3. Tra gwylaidd, gorwylaidd, gwyl iawn, yswil
  4. Ready: parod, yn barod
  5. Llodrau: brecches
  6. 'Gelw chwitheu', arg. 1703, 1755, 1759, a 1774; 'gelwch chwitheu,' arg. 1768; 'gelwir chwitheu,' rhai diweddarach.
  7. Cumbrous: rhwystrus; un a fyddo yn rhwystr