AR Y DÔN A ELWIR LEAVE LAND,' NEU GADAEL Y TIR."
1. GADAEL tir, a gadael tai
(Byr yw'r rhwysg i ddyn barhau),
Gadael pleser, mwynder mêl,
A gadael uchel achau.
2. Gadael nerth, a thegwch pryd,
Gadael prawf a synwyr ddrud,
Gadael dysg, a cheraint da,
A phob anwyldra'r hollfyd.
3. Oes dim help rhag Angeu gawr,
Y carn-lleidr, mwrdriwr mawr,
Sy'n dwyn a feddom, ddrwg a da,
A ninnau i'w gigfa gegfawr!
4. Gwyr yr aur, ond gwych a fai
Gael fyth fwynhau'ch meddiannau ;
Mael[1] y gwnewch chwi rhyngoch rodd,
A ryngo fodd i'r Angeu.
5. Chwi rai glân o bryd a gwedd,
Sy'n gwallio[2] gorseddfeinciau!
Mael[1] trwsiwch chwithau'ch min
I ddallu'r brenin Angeu.
6. Chwi'r ysgafnaf ar eich troed,
Yng ngrymus oed eich blodau,
Ymwnewch i ffoi, a chwi gewch glod,
O diengwch rhag nod Angeu.
|
- ↑ 1.0 1.1 Mael,' arg. 1703; 'mal,' y rhai diweddar
- ↑ 2 Gwel t. 33, n. 1.