Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a pha sawl siryf, a fuasai o'i dy ef. 'Hai, hai,' ebr un o'r diawliaid, 'ni wyddom haeddiant y rhan fwyaf o'ch hynafiaid chwi: ped fuasech chwi tebyg i'ch tad neu i'ch gorhendaid ni feiddiasem ni mo'ch cyffwrdd. Ond nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli roi i ti letty noswaith,' ebr ef, ac eto ti a gai ryw gilfach i aros dydd:' a chyda'r gair, dyma'r ellyll ysgethrin â'i bicfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, onid oedd o'n disgyn i geudwll allan o'r golwg. Mae hyny yn abl,' ebr y llall, i ysgwier o hanner gwaed; ond gobeithio y byddwch well eich moes wrth farchog, a fu yn gwasanaethu'r brenin fy hun; a deuddeg o ieirll, a dega deugain o farchogion, a fedraf eu henwi o'm hen ystent[1] fy hun.' Os eich hynafiaid a'ch hen ystent. yw'r cwbl sy genych i'w ddadleu, gellwch chwithau gychwyn yr un ffordd,' ebr un o'r diawliaid; o blegid nid ŷm ni yn cofio odid o hen ystâd fawr, nad rhyw orthrymwr, neu fwrdriwr, neu garn lleidr, a'i dechreuodd; a'i gadael i rai cyn drawsed a hwythau, neu i benbyliaid segurllyd, neu foch meddwon. Ac i faentumio'r mawredd afradlon, rhaid gwasgu'r deiliaid a'r tenantiaid;[2] os bydd yno nac ebol tlws, na buwch foddgar, rhaid i meistres eu cael, rhag blys; a da os dianc y merched, ie, a'r gwragedd, rhag blys y meistr. A'r mân uchelwyr o'u hamgylch, rhaid i'r rhai hyny naill ai eu hofer ganlyn, ai meichnio trostynt, i'w hanrheithio eu hunain a'u heiddo, a gwerthu eu treftadaeth, neu ddysgwyl cas a chilwg, a'u llurgynio i bob oferswydd yn eu byw. O! foneddigeiddied y tyngant, i gael eu coelio gan eu cariadau, neu gan eu siopwyr! a chwedi ymwychu, O! goeced yr edrychant ar lawer o gryn swyddogion gwledig ac eglwysig, chweithach ar y bobl gyffredin! fel petai y rhai hyny ryw bryfed wrthynt hwy. Gwae finnau! Ai nid unlliw pob gwaed? Ai nid yr un ffordd rhwng y trwne a'r baw y daethoch chwi i gyd allan?' 'Er hyn oll, trwy eich genad,' ebr y marchog, 'mae ambell enedigaeth yn llawer purach na'r llall.' 'I'r distryw mawr, oes blisgyn o honoch oll well na'u gilydd,' ebr y dieflyn; 'yr ych i gyd oll wedi eich diwyno â phechod gwreiddiol oddi

  1. 'Ystent' hen dreftadaeth; hen gartrefle; ystâd.
    I'th dent y mae 'stent mwyaf 'stor.—L. Glyn Cothi.
  2. Deiliaid a thenantiaid;' dau air, un yn Gymraeg a'r llall o'r Seisoneg, yn arwyddo yr un peth. Y blaenaf sydd ar gyffredin arfer gwlad yn y Deheubarth, a'r olaf yng Ngwynedd a Phowys.