Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allaswn ei gael yn onest.' 'Uffern, a dwbl uffern, i'r tarw cynddeiriog o wr boneddig a ddechreuodd gyntaf fy hudo i,' meddai'r drydedd; 'oni buasai i hwnw, rhwng teg a hagr, dori'r cae, nid aethwn i yn gell egored i bawb, ac ni ddaethwn i'r gell gythreulig yma!' ac yna ymrwygo eilwaith.

Ond ereill wedi ymbobi, aent o dwll i dwll tan gyneica, a thynent y diawliaid rhwng eu traed; weithiau ffo'i y rhai hyny rhagddynt; ac weithiau rhoent iddynt dân at dân; cynient[1] hwy ag ebillion o ddur gwynias, oni chaent ddigon o ymrygnu, a'u perfedd yn sio ac yn ffrïo.

Yr oedd yn rhyhwyr genyf ymadael â ffiaidd ganel[2] y geist cynäig. Ond cyn myned nemor ym mlaen, bu ryfedd genyf weled carchar-lwyth arall o ferched dau ffieiddiach na hwythau. Rhai wedi myned yn llyffaint; rhai yn ddreigiau; rhai yn seirff, yn nofio ac yn chwibianu, yn glafoerio ac yn ymdolcio mewn merbwll[3] drewllyd, mwy o lawer na Llyn Tegid.[4] 'Atolwg,' ebr fi, 'beth bosibl i'r rhai hyn fod?' Mae yma," ebr yntau, bedair rhywogaeth benigamp o ferched, heb law eu cynffonion: 1. Carn-buteiniaid, a fu yn cadw mân fudrogod tanynt, i gael gwerthu yr un morwyndod ganwaith; a rhai o'r puteiniaid penaf yma o'u hamgylch. 2. Meistrosod y Chwedlau, ac o'u cwmpas fyrdd o wrachod y newyddion. 3. Marchogesau, â phac[5] o lyfrgwn llechwrus o'u deutu; canys nid ai ddyn erioed ar eu cyfyl ond rhag eu hofn. gowliaid, wedi myned yn gan erchyllach na nadroedd, yn cnoi fyth dy rinc, dy rinc,[6] â'u colyn gwenwynig.

Tygaswn[7] fod Luciffer yn weddeiddiach brenin na rhoi gwraig foneddig o'm gradd i gyda'r mân ddiawlesod hyn,' ebr un syrn debyg, ond ei bod hi yn llawer gerwinach na sarff hedegog. 'O! na yrai fo yma seith-gant o'r diawliaid dyhiraf yn uffern yn gyfnewid am danat ti, uffern-bryf gwenwynig!'

  1. Cynio (o cŷn=gaing)=sicrhau â chŷn neu aing; geingio, llettemu; rhoi neu yru cŷn ym mheth.
  2. 'Canel'=kennel: cynel, ty cŵn, cyndy, cyullwst; ceudwll, ffau.
  3. 'Merbwll' (marm-bwll)=pwll o ddwfr marw neu lonydd; pwll budreddi; merllyn.
  4. Llyn Tegid, ger y Bala, ym Meirionydd, yw y llyn mwyaf yng Nghymru.

    Drwyodd, er dyddiau'r Drywon,
    Y rhwyf y Dyfrdwyf ei don.'

  5. 'Pac'=pack: haid, gyr, cniw, cnud, tocyn.
  6. Dychymmygeiriau, i ddynwared swn cnoi, neu rincian dannedd.
  7. Tygaswn=tybygaswn. Gwel Davies, Ant. Ling. Brit. Rud. 136-7,