Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofnech chwi ladron ar ffordd Llundain gynt, eto nid oeddych chwi ond y fath waethaf o ladron ffordd fawr eich hunain, yn byw ar y ffordd ac ar ledrad; ïe, ac ar ladd teuluoedd tlodion, wrth ddal llawer o gegau newynllyd yn egored i ddysgwyl eu heiddo eu hunain i'w porthi, a chwithau yn y Werddon, neu yn y King's Bench,[1] yn chwerthin am eu penau; neu ar y ffordd, yn eich gwin a'ch puteiniaid.'

Wrth ymadael â'r ogof greision-boeth, ces olwg ar y walfa benaf ond un a welais i yn uffern, am echryslawn ffieidd-dra drewedig, lle yr oedd cenfaint o foch meddwon melltigedig yn chwydu ac yn llyncu, yn llyncu ac yn chwydu llysnafodd erchyll fyth heb orphwys.

Y twll nesaf oedd lletty'r Glothineb, lle yr oedd Difes a'i gymheiriaid ar eu torau yn bwyta baw a thân bob yn ail, fyth heb ddim gwlybwr. Ddant neu ddau yn is, yr oedd cegin rost helaeth iawn, a rhai rhost ac yn ferw, ereill yn ffrio ac yn fflamio mewn simnai syrn danbaid. 'Dyma le yr Annhrugarog a'r Annheimladwy,' eb yr Angel; a throis dipyn ar y llaw aswy, lle yr oedd cell oleuach nag a welswn i eto yn uffern: gofynais pa le ydoedd. Trigfa'r Dreigiau Uffernol,' eb yr Angel, 'sy'n chwyrnu ac yn ymchwerwi, yn rhuthro ac yn anrheithio eu gilydd bob mynyd.' Mi neseais; ac och â'r olwg annhraethadwy oedd arnynt! y tân byw yn eu llygaid oedd y goleuni oll. 'Hil Adda yw y rhai hyn,' ebr fy nhywysog, yn ysgowliaid, a gwŷr digllon cynddeiriog: ond dacw,' ebr ef, rai o hen sil y Ddraig fawr Luciffer;' ac yn wir, ni wyddwn i ddim rhagor hawddgarwch rhwng y naill a'r llall.

Y seler nesaf yr oedd y Cybyddion mewn dirboen echrys, gerfydd eu calonau yng nglŷn wrth gistiau o arian tanllyd, a rhwd rhai hyny yn eu hysu fyth heb ddiwedd, megys na feddyliasent hwythau am ddiwedd fyth yn eu casglu: ac yr awran ymddryllio yr oeddid yn waeth na chynddeiriog gan ofid ac edifeirwch. Is law hyn, yr oedd bachell[2] swrth, lle yr oedd rhai o'r potecariaid wedi eu malu a'u gwthio i botiau priddion, mewn Album Græcum, [3] a baw gwyddau a moch, a llawer enaint hendrwm.

  1. King's Bench=y Llys Penadur, un o brif lysoedd y gyfraith.
  2. Congl, cornel, cilfach, ebach.
  3. Stercus Canis officinale, Dog's white dung, Album Græcum as 'tis commonly called. This is said to cleanse and deterge: but it is used in little else but inflammation of the throat, with honey: and that outwardly, as a plaster, more than any other way: but seldom as appears to any great purpose.—Quincy's Compleat English Dispensatory, 12th edit. 1749.