Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu barn, dyma Ragrith, yn olaf oll, yn arwain cadfa luosocach na'r un o'r lleill, o bob cenedl ac oed, o dref a gwlad, boneddig a gwreng, meibion a merched. Yng nghynffon y llu dauwynebog, ninnau aethom i olwg y llys, trwy lawer o ddreigiau, ac ellyllon corniog, ac o gawri annwn, porthorion duon y Fallgyrch eirias; a minnau yn llechu yn ofalus iawn yn fy llen gel, ni aethom i mewn i'r adail erchyll; aruthrol a thra aruthrol o erwindeb oedd bob cwr; y muriau oedd anfad greigiau o ddiemwnt eirias; y llawr yn un gallestr gyllellog anoddef; y pen o ddur tanllyd, yn ymgyfhwrdd fel bwa maen o fflamau gwyrddlas a dugoch, yn debyg, ond ei faint a'i boethder, i ryw anferth bobdy cwmpasog erchyll.[1] Gyferbyn a'r drws, ar orseddfainc fflamllyd, yr oedd y Fall fawr, a'i brif angylion colledig o'i ddeutu ar feinciau o dân tra echryslawn, yn eistedd yn ol eu graddau gynt yng ngwlad y goleuni, yn genawon hawddgar; ni waeth i ti hyny nag ofer bregeth, i geisio dadgan mor ysgeler ysgethrin oeddynt; a pha hwyaf yr edrychwn ar un o honynt, saith erchyllach fyth. Yn y canol, uwch ben Luciffer, yr oedd dwrn mawr, yn dal bollt tra ofnadwy. Y tywysogesau, wedi gwneyd eu moes, a ddychwelasant i'r byd at eu siars yn ddiymaros. A phan gyntaf yr ymadawsant, dyma gawr o ddiawl ceghir, ar amnaid y brenin, yn rhoddi bonllef uwch na chan ergyd o ganon,[2] cyfuwch, pe posibl, a'r udgorn diweddaf, i gyhoeddi'r Parliament uffernol: ac yn ebrwydd, dyma giwed annwn wedi llenwi'r llys a'r cyntedd ym mhob llun, yn ol delw a chyffelybiaeth y pechod penaf a'r a garai pob un ei wthio ar ddynion. Wedi gorchymmyn gosteg, dechreuodd Luciffer, â'i olwg ar y penaethiaid nesaf ato, lefaru yn rasusol fel hyn:—

Chwychwi benaethiaid Annwn, tywysogion y Fagddu anobaith! Os collasom y meddiant lle buom gynt yn dysgleirio hyd teyrnasoedd gwynion Uchelder, er maint, eto gwych oedd ein cwymp ni, nid oeddym ni yn bwrw am ddim llai na'r cwbl; ac ni chollasom mo'r cwbl chwaith; canys wele wledydd helaeth a dyfnion hyd eithaf gwylltoedd Distryw fawr, tan ein rheolaeth ni eto. Gwir yw, mewn dirboen anaele yr ŷm ni yn teyrnasu; eto gwell gan ysbrydion o'n huchder ni deyrnasu mewn penyd na gwasanaethu mewn esmwythyd. [3] Ac heb law

  1. Gwel Coll Gwynfa, i. 68, &c.
  2. Cannon: cyflegr, magnel, gwn mawr.
  3. Gwel Coll Gwynfa, i. 259-89.