Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr arall.' "Beth,' ebr fi, 'ertolwg, y gelwir y byd hwnw?' 'Fo'i gelwir,' ebr ef, 'Annwn, neu Uffern Eithaf, cartref y cythreuliaid, ac lle yr aethant yr awron. A'r holl wylltoedd mawrion y daethost ti tros beth o honynt, a elwir Gwlad yr Anobaith, lle a drefnwyd i ddynion damnedig hyd ddydd-farn; ac yna fe syrth hon yn un â'r Uffern Eithaf ddiwaelod; yna daw un o honom ninnau, ac a gau ar y diawliaid a'r damniaid yng nghyd, ac byth yn dragywydd ni egorir arnynt mwy. Ond yn y cyfamser maent yn cael cynnwysiad i ddyfod i'r wlad oerach yma i boeni yr eneidiau colledig. Ië, maent yn fynych yn cael cenad i fyned i'r awyr, ac o gwmpas y ddaiar, i demtio dynion i'r ffyrdd dinystriol sy'n tywys i'r diadlam garchar tra ysgethrin hwn.'

Yng nghanol hyn o hanes, a mi yn synu fod ceg Annwn yn rhagori cymmaint ar safn Uffern uchaf, mi a glywn dramawr drwst arfau ac ergydion geirwon o un cwr, ac megys taranau croch yn eu hateb o'r cwr arall, a'r creigiau angeuol yn diaspedain.[1] Dyma swn rhyfel,' ebr fi, os bydd rhyfel yn uffern.' Bydd,' ebr ef; 'ac nid posibl fod yma ond rhyfel gwastadol.' A ni yn cychwyn allan i edrych beth oedd y mater, gwelwn gog Annwn yn ymagor, ac yn bwrw i fyny filoedd o ganwyllau gwyrdd-hyllion; y rhai hyn oedd Luciffer a'i benaethiaid wedi gorfod y dymmestl. Ond pan glybu o'r trwst rhyfel, fe aeth yn lasach nag Angeu,.ac a ddechreuodd alw a hel byddinoedd o'i hen sawdwyr profedig i ostegu'r cythryfwl: yn hyny, dyma fe'n taro wrth gorgi o ddieflyn bach, a ddiangasai rhwng traed y rhyfelwyr. Beth yw'r mater?' ebr y brenin. Y fath fater ag a berygla eich coron, oni edrychwch atoch eich hun.' Yngnghynffon hwn, dyma redegwas cythreulig arall yn crygleisio: Yr ych chwi yn dyfeisio aflonyddwch i ereill: edrychwch[2] weithian at eich llonydd eich hun; dacw'r Tyrciaid, y Papistiaid, a'r Rowndiaid llofruddiog, yn dair byddin, yn llenwi holl wastadedd y Fagddu, ac yn gwneyd y mawrddrygau, yn gyru pob peth dinbenstrellach.'[3] Pa fodd y daethant allan?' ebr y Fall fawr, tan edrych yn waeth na Demigorgon.[4] 'Y Papistiaid,' ebr y genad, 'ni wn i pa fodd,

  1. Dadseinio, adscinio, tryseinio.
  2. Edrych,' arg. 1703.
  3. Bendramwnwgl, blith draphlith, dinben drosben.
  4. Neu yn hytrach, Demogorgon, fel y llythyrenir yr enw gan Milton:

    Cyda hwynt y safent Erch
    A Had, ac yr arswydus enw, ïe,
    Y Demogorgon, nesaf Son a Chwaen
    A Therfysg ac Annhrefniad llawn o gur,
    Anghydfod ag ei rhydd dafodau fil.

    Coll Gwynfa, ii. 1018.
    Ar Demogorgon, rhydd y Dr. Owain Puw yr eglurhâd canlynol:—
    Tybia rhai mai un yw hwn à Demiurgus; ereill mai efelly y gelwid am y gallai edrych ar y Gorgon, a droai dremyniaid ereill i feini: mor ofnadwy oedd llafaru ei enw, nas gallent y penaf o uffernolion hyny heb grynu a ffoi."