Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y tywyll, ni a dalwn am ein cyfarwyddo.' 'Ha, ha,' ebr Luciffer, 'cewch dalu'r ffyrling eithaf cyn yr eloch' (ond erbyn chwilio yr oedd pob un wedi gadael ei glos ar ei ol). 'Gadawsoch Baradwys ar y llaw chwith tu uchaf i'r mynyddoedd fry,' ebr y Fall; 'ac er hawsed dyfod i waered yma, eto nesaf i ammhosibl yw myned yn ol, gan dywylled a dyrysed yw'r wlad, a maint sy o elltydd heirn tanllyd ar y ffordd, a chreigiau dirfawr yn crogi trosodd, ac ysblentydd[1] dibyn o rew anhygyrch, ac ambell raiadr serthgryf, sy'n rhydost oll i ymgribinio trostynt, oni byddai genych ewinedd diawledig o hyd. 'Hai, hai,' ebr ef, 'ewch â'r penbyliaid hyn i'n Paradwys ni at eu cymheiriaid.' Ar hyn, clywn lais rhai yn dyfod tan dyngua rheguyn greulon, 'O diawl! gwaed diawl! mil canmil o ddiawl! mil myrddiwn o ddiawl[2] el â mi os af!' ac ar hyny, dyma eu taflu chwap ger bron. Dyma,' ebr y ceffyl, 'i chwibwn o gystal tanwydd a'r goreu yn uffern.' 'Beth ydynt?' 'Meistri[3] y gelfyddyd foneddigaidd o dyngu a rhegu,' ebr yntau; gwyr a fedr iaith uffern cystal a ninnau.' 'Celwydd yn eich gên,[4] myn diawl,' ebr un o honynt. 'Syre, a gymmerwch chwi fy enw i yn ofer?' ebr y Fall fawr. Hai, ewch a bechiwch hwy yng nghrog gerfydd eu tafodau wrth y clogwyn eirias acw, a byddwch barod i'w gwasanaethu; os diawl a alwant, neu os mil o ddiawl, hwy a gânt eu gwala.'

Pan aeth y rhai hyn, dyma gawr o gythraul yn gwaeddi am glirio'r bar, ac yn taflu yno lwyth o wr. 'Beth sy yna?' Tafarnwr,' ebr yntau. 'Pa beth,' ebr y brenin, un Tafarnwr? lle byddent yn dyfod o fesur chwemil a seithmil. Onid ych chwi allan er's deg mlynedd, Syre, ac heb ddwyn i ni ond un? a hwnw yn un a wnaethai i ni chwaneg o wasanaeth yn y byd, na chwi, ddrewgi diog.' 'Yr ych chwi yn rhy deg i'm bwrw cyn fy ngwrando,' ebr yntau. 'Ni roisid ond hwn yn fy siars i, ac wel, dyma fi yn rhydd oddi wrth hwn. Ond eto mi yrais i chwi o dŷ hwn lawer oferwr wedi yfed cynnaliaeth ei dylwyth, ambell deisiwr a chardiwr, ambell dyngwr tlws, ambell folerwr mwyn difalais, ambell was diofal, ambell forwyn groch yn y gegin, a mwynach na

  1. 'Ysblentydd'=lleni o ia; talpiau dirfawr o ia hylithr: ysglentiau: Seis, glaciers. Gwel t. 96, 98.
  2. Felly yn arg. 1703, dau Durston, ac un 1774; 'ddiawliaid,' arg. 1768.
  3. Meistr,' arg. 1703.
  4. Celwydd yn eich gên=celwydd yn eich dannedd.