Tudalen:Gwialen Fedw Fy Mam.pdf/2

Gwirwyd y dudalen hon

Achoswn ryw ddamwain ysmala,
Ac yna mi redwn i ffwrdd ;
Fe waeddai fy nhad arnaf—Aros,
Gan addaw amddiffyn fy ngham:
Ond diangc oedd lawer mwy diddos
O ffordd gwialen fedw fy mam,

Bwriedais, rai canoedd o weithiau,
Ei thaflu i ganol y tân :
Ond er fy holl gywrain gynlluniau,
Mi fethais ei chyraedd yn lân
Gosodwn y gadair yn hwylus
I gyraedd fy nod yn ddi nam,
Ond ofer fu'm triciau direidus
I ddwyn gwialen fedw fy mam.

Pan byddai cyfoedion yn ceisio
Fy hudo i wneuthur rhyw ddrwg,
A minau bron iawn a chydsynio,
Rhag ofn i mi dynu eu gwg :
Fe redal fy meddwl yn sydyn
At gerydd, cyn rhoddi y llam,
Ac felly gwrthodwn eu dylyn,
Rhag ofn gwialen fedw fy mam

Wel, tegwch i mi ydyw canmol
Pob moddion arferwyd er lles,
A thaflu o’r neilldu yn hollol
Bob rhagfarn, a dyfod yn nes;
Can's teimlo mae f'enaid ryw awydd
Roi moliant i bob moddion am
Fy Dghadw ar lwybrau dyledswydu,
Fel gwnaeth gwialen fedw fy mam.

——Britwn