Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Mi fydd yn rhaid i chi 'ch dou gâ'l eich ymolch a myn'd i'r gwely ar unwaith, a mi ddwa i i siarad a chi yn y bedroom.'

Yr oedd y ddau fychan yn edrych mor ddiniwed a'r wyn, ac yr oedd eu hufudd-dra parod yn gwneyd i fy nghalon waedu drostynt. Ond gwyddwn yn rhy dda mai gwell oedd peidio ymyryd rhwng Elen a'i phlant. Es allan am awr yn ychwaneg, a phan ddychwelais yr oedd fy neiaint yn eu gwelyau'n dawel, a'r forwyn yn cadw cwmni iddynt hyd nes y cysgent, tra yr oedd eu dillad yn sychu wrth y ffwrn yn y gegin.

Pan ddychwelodd Henri o'r ysgol, nid oedd taw ar achwyn Elen.

'Mae'r ddou yn drech yn lân na fi,' meddai. 'Wedi i fi dodi nhw yn y gwely, a thynu'r 'ialen fedw oddiar yr ho'l, 'Mami,' medde Gwilym, a geiff Dafi'r Esger ei whipo am lychu ei ddillad?' a 'dallwn i ddim dodi'n llaw i gwrdda'r crwt wed'yn. A 'dyw e' ddim iws i beido'i gospi e,' ne' mae e'n siwr o fyn'd a Benni Bach i'r pownd yto. Mae'n llawer gwell i chi fyn'd i whipo nhw.'

'Na, wna i'n wir i ti,' meddai Henri. Ti sy' wedi dechre' ar y gwaith. Ond os taw ishe hadel y plant i ddwyno'u dillad sy' arnat ti, mae gen i lawer gwell ffordd.'

'Beth yw hyny?' gofynai Elen.

Rho drowsus penlin i'r ddou,' meddai Henri, mi ddrychan nhw nag a'n nhw ddim i'r pownd wed'yn.' Ac felly fu. Boreu dydd Llun, halwyd i ymofyn John y teiliwr i Blas Newydd, i wneyd dillad newydd i Gwilym a Benni Bach.