Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwilym a Benni Bach i'r ysgol am y tro cyntaf ar foreu dydd Llun yn amser Calan Mai. Yr oedd Elen wedi bod wrthi am oriau yn paratoi erbyn yr amgylchiad, a gallech gredu fod y plant yn myned i bellder byd, ac nid i bentref oedd tu fewn i filltir i'r ty, gan gymaint oedd helynt Elen yn eu cylch.

Arosai y ddau yn barod i gychwyn,—yn disgwyl dyfodiad Tom Brynglas, mab cymydog oedd erbyn hyn yn Standard V. Yr oedd gwynebau y ddau yn disgleirio ar ol y dwr a'r sebon; yr oedd eu gwallt cyrliog wedi ei ranu yn ofalus, yr oedd coler glân ar y ddwy got lwyd; nid oedd brycheuyn ar y trowsus penlin rib gwyn, na bai na choll ar y sanau glân ddu'r ddafad.

Dodwch eich cap yn gwmws, Gwilym,' meddai Elen gan edrych gyda balchder ar y ddau, a chan gymhwyso y Scotch cap oedd ar ochr eu cern. A chofiwch chi 'weyd good morning, syr,' wrth Mr. Hartland pan ewch chi miwn a rho'wch chi fow taliedd. iddo fe. Beth i chi fod i 'weyd wrth Mr. Hartland 'nawr?'

Good mornin' syr, meddai Gwilym a Benni Bach gyda'u gilydd, fel pe baent yn adrodd pwnc.

A chyn pen mynud ar ol hyny, dyma Tom Brynglas yn galw heibio.

'Cofiw e', da machgen i,' medde Elen wrth Tom, am fyn'd a nhw yn sâff, a'u cadw nhw rhag trochi eu dillad. A mae slât a'u pensil nhw yn y bag, a mae'r bara menyn gyda Gwilym iddyn nhw erbyn haner dydd.'

'Me fydda nhw'n ol reit, Mrs. Morgan, gyda fi,' atebe Tom Brynglas, gyda phwyslais ar y fi, a chan roddi ei law dde i Benni Bach a'i law chwith i Gwilym. Ac ni fu rhyfelwr erioed yn dychwelyd o'r gâd a'i ysbail gydag ef yn fwy balch nag yr oedd Tom Brynglas wrth gerdded o glôs Plas Newydd a'i fyddin fach wrth ei gwt.