Erbyn cyrhaedd yr ysgol, gwelwyd nad oedd ond ugain mynud i naw—cwarter awr cyn amser canu'r gloch. Ond er cynared oedd, yr oedd yno yn agos i bedwar ugain o blant wedi crynhoi ynghyd, a gellid canfod yn hawdd ddigon fod rhywbeth anarferol ar waith. Dododd Tom Brynglas Gwilym a Benni Bach i eistedd. gyda'r plant lleiaf yn yr Infants' Room, ac ar ol eu cael oddiar ei ddwylaw, siaradai yn brysur a rhai o'r bechgyn mwyaf. O'r diwedd dyma fe yn rhoddi'r gair i bawb o'r plant i fyn'd i'r ysgoldy. I mewn yr aethant fel deadell o ddefaid, y merched a'r bechgyn gyda'u gilydd rhai yn ufuddhau yn llonydd, ereill yn gofyn. beth oedd yn bod. Arosai Tom mewn dwfn gynghor a thri o'i gyfeillion, John y Bryngwyn, William y Coed, a Dafi Felindre. Nid hir y buont mewn petrusder.
'Cerwch chi boys,' meddai Tom, 'i geuad y shutters, a mi gloia ine'r ddou ddrws.'
Fel уr ufuddha cwch i droad y llyw, felly yr ufuddhaodd ei gyfeillion i orchymynion Tom Brynglas. Cyn bod bys y cloc yn dangos deng mynud i naw, yr oedd pob drws ynghlo, a phob ffenestr ynghau, a'r ysgoldy i gyd mewn haner tywyllwch. Eisteddai'r plant yn dawel,—rhai yn ofni gormod i ddweyd dim, ereill yn sisial â'u gilydd. Tramwyai Tom Brynglas drwy y rhengoedd, fel tywysog, heb ofni gwyneb neb,— yn bygwth y cecrus, yn ysbrydoli y gwan, ac yn rheoli yr oll. Ond eisteddai Gwilym a Benni Bach o hyd ar y ffwrwm yn yr 'Infants' Room,' gan gredu fod hyn oll yn rhan o waith yr ysgol.
Mewn ychydig dyma guro wrth y drws. Yr oedd. Tom wedi gorchymyn nad oedd neb i ateb ond efe. Dyma guro drachefn a thrachefn.
Open the door at once,' meddai llais y pupil teacher, William Jones y Wern. 'I know who it is. It's Tom Brynglas.'