'Na, agora i ddim,' atebai Tom yn ddigryn—'ryn ni wedi ca'l digon ar yr hen Sais 'na a'i ganen. Os addewith e' i beido'n whado ni ragor am siarad Cwmrag, mi agorwn y drws.'
Yn ofer yr erfyniai William Jones ar i Tom i agor cyn y deuai Mr. Hartland. Safai Tom yn ddewr ac yn ddi-ildio. Ym mhen tipyn, pan oedd y cloc yn taro naw, dyma'r ysgolfeistr ei hunan yn dod.
'Open the door, you rascals,' meddai mewn nwydau. gwyllt, 'or I'll make you regret it.'
Ac yna dechreuodd y frwydr fawr fythgofiadwy rhwng Tom Brynglas a'r Sais. O naw o'r gloch y boreu hyd dri o'r gloch y prydnawn safodd Tom ei dir. Ni thyciai na bygythion Mr. Hartland, nac ymresymiadau William Jones y Wern, nac ofnau y plant. Nid oedd dim allai wneyd i Tom daflu ei arfau i lawr. Gwangalonai ei gadfridogion uchelaf ambell waith; ond yr oedd ewyllys Tom yn drech na'r holl anhawsderau. Dechreuai rhai o'r plant i lefain, ac yr oedd. Gwilym a Benni Bach mewn dagrau cyn canol dydd. Ond cysurai Tom y bychain, ac yr oedd ei arswyd wedi disgyn ar y llwfr. Daeth newyn a syched ar y llu gwarchaeedig; ond yr oedd gan Tom ddwfr i'r sychedig gyda'u tocyn amser ciniaw, a gair o gysur i'r trallodus a'r trwm ei galon. Tua thri o'r gloch yn y prydnawn, yr oedd clôs yr ysgol yn llawn o bobl y plwyf—rhai yn cymeryd rhan y plant, ereill gyda'r meistr. Daeth Tom Griffiths y Siop—ysgrifenydd y Bwrdd Ysgol— i ymresymu a Tom; ond ni roddai y cadfridog hwnw ffordd un fodfedd. Daeth Mr. Edwards, Tynycwm,— cadeirydd y Bwrdd yno, yn chwythu bygythion, ond ni lwyddodd i agor y drysau. O'r diwedd daeth Dafi'r saer yno, a dau o'i brentisiaid, a briwyd y clô, ac agorwyd y drws uchaf led y pen. Safai Tom a ruler yn ei law, a llu arfog y tu cefn iddo. Ond pan ruthrodd