Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dyrfa oddiallan i fewn, gwasgarwyd llu Tom fel ûs o flaen y gwynt, ac efe ei hunan a adawyd i ymladd dros iawnderau plant yr ysgol. Ond buan ei goddiweddwya gan dynged greulawn; diarfogwyd y gwron, ac ymaflodd Mr. Hartland ynddo, a chyn bo hir, ar ol agor y shutters, a chael goleuni eto i'r ysgoldy, yr oedd pawb yn eistedd yn dawel, a theyrnasai tawelwch fel y môr drwy yr holl le. Yn unig clywid swn yr ysgolfeistr yn galw Thomas Thomas i gyfrif am ei ddrwg weithredoedd, ac, wedi hyny, ynghanol distawrwydd perffaith, dychrynai'r plant yn eu calonau wrth glywed swn maleisus y ganen yn glawio ergydion ar gorff Tom,— ond Tom ei hun ni ddywedodd air ac ni ddiangodd ochenaid dros ei wefusau.

Ond yn yr 'Infants' Room' yr oedd braw a galar ac anhrefn. Yno y cymerodd cynorthwywyr Tom noddfa rhag llid yr ysgolfeistr. Cuddiodd un yn y cwpwrdd lle cedwid y llyfrau, ac aeth y ddau arall dan y ffwrwm ar yr hon yr eisteddai Gwilym a Benni Bach. Gwelodd y ddau fychain hyn, ac arswyd a ddisgynodd drachefn ar eu hysbryd. Yr oedd eu grudd yn lyb gan ddagrau; a'u llygaid yn goch gan wylo. Hiraethent am eu mham ac am ddiogelwch Plas Newydd. Nis gwyddent beth oedd y perygl, ond teimlent ei fod gerllaw. Ac fel y cyrcha pysgod mân i'r rhwyd rhag ofn swn y pysgodwyr, felly y daliwyd Gwilym a Benni Bach. Yn eu braw neidiasant oddiar y ffwrwm ar yr hon yr eisteddent, a dilynasant y ddau isarweinydd, ar eu traed a'u dwylaw, heb feddwl am lwch y llawr nac am eu trowsus rib glân, ac ymguddio a wnaethant o wyddfod y meistr dan gysgod y ffwrwm fach! Nid hir y buont yno. Yr oedd coesau Benni Bach yn amlwg ddigon, ac nid oedd ond ei ben cyrliog o'r golwg. Ar ol llwyr orchfygu'r gwersyll uchaf, cerddodd Mr. Hartland i'r 'Infants' Room,' a golwg sarug ar ei