Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyneb a'i lygaid yn melltenu. Y cyntaf peth a welodd oedd traed Benni Bach yn ymestyn oddi dan y ffwrwm. Gafaelodd ynddynt, tra'r ysgrechai Benni Bach, a Gwilym gydag ef o gydymdeimlad.

And what, sir do you mean by making this disturbance?' meddai'r ysgolfeistr.

Adwaenai Benni Bach Mr. Hartland. Yr oedd wedi ei wel'd lawer gwaith yn Salem.

Cofiodd gyngor ei fam. Gwnaeth ei oreu i wneyd bow taliedd, a dywedodd yn ei lais trebl, er fod y dagrau heillt yn ffrydio dros ei ruddiau brwnt,

'Good morning, syr. Nid y fi 'nath e', wir.'

Gwyddai'r meistr mai meibion i aelod o'r Brwdd oedd y ddau dan y ffwrwm, a chanfyddai mai dieithriaid yn yr ysgol oeddynt. Dywedodd air caredig wrthynt,— er nad oeddynt yn deall ei ystyr. Arosasant yn haner crio tra y cospwyd y tri gwron am gynorthwyo yr arch-wrthryfelwr; ac yna am bedwar o'r gloch y prydnawn gollyngwyd hwy yn rhydd gyda'r rhan arall o'r ysgol, ac aethant gartref ond y tro hwn heb Tom Brynglas, oblegid yr oedd ef wedi ei ddior i fyn'd adref gyda'r lleill, fel y caffai Mr. Hartland gyfle yn rhagor i'w ddysgu i ufuddhau i'r awdurdodau y sydd.

Hynod a helbulus, felly, y bu diwrnod cyntaf Gwilym a Benni Bach yn ysgol Llanelwid.