Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.

Y TY PRYDFERTH.

Nid oes llawer o lyfrau ym Mhlas Newydd, ond y mae pob un sydd yno wedi ei ddarllen drosodd a throsodd gan Henri ac Elen. Mae rhai pobl yn credu na all neb fod yn ddysgedig os nad yw wedi darllen hyn a hyn. o lyfrau newyddion. Y maent yn barod i addoli pob un sydd wedi gwario ychydig flynyddoedd yn yr ysgol a'r coleg, neu sydd wedi darllen nofelau diweddaraf a bryntaf y Saeson. Ni fuasai dim yn synu Henri yn fwy na chlywed ei fod yn berchen ar drech diwylliant na haner y bechgyn sydd yn graddio yn Rhydychen a Chaergrawnt. Nid yw wedi ymgydnabyddu a damcaniaethau Hegel a Spencer; ni ddarllenodd air of weithiau Carlyle a Darwin a Ruskin; ni all ddifynu llinell o ysgrifeniadau Shakespeare a Miltwn a Wordsworth. Ond beth am hyny? Y mae yn deall ac yn gwerthfawrogi y llenyddiaeth sydd ganddo,—yr hyn. ni ellir ddweyd am y rhan fwyaf o'r rhai sydd yn cymeryd arnynt fod yn llawer mwy diwylliedig. Y mae yn hyddysg yn yr Ysgrythyr y casgliad goreu o'r lenyddiaeth fwyaf amryfal a'r fwyaf oruchel yn y byd. Beth sydd gan athronwyr Germani i ddweyd am ddirgelwch bywyd dyn a'i berthynas â'r Duwdod yn rhagor nag a ddywedwyd mewn geiriau llawer mwy miniog a grymus yn Llyfr Job? Nis gallant hwy, druain, ond diffynio a manylu; diwedd ei holl ddyfaliadau yw dechreuad hanes Job. Ac nis gall nofelwyr ac ysgrifenwyr yr oes oleuedig hon wneyd dim ond taflu goleu arall ar hen brofiadau'r hil ddynol—