Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chlywais ef yn esbonio wrth Henri mai chwedleuon disail oedd yr hanes i gyd. Ond ofer oedd ei siarad. Gallai yn hawdd ddigon ddangos beiau a diffygion Theophilus Evans; ond bydd Drych y Prif Oesoedd' fyw pan fydd oesau a ddel yn chwilio am bapyrau arholiad Prifysgol Llundain.

Nis anghofiaf byth y dydd pan y rhoddes gopi o 'Rhys Lewis' i Henri. Gyda'r fath flas ac awydd y darllenai ef! O'r fath ddagrau a gollodd uwchben hanes Mari a Ben; a'r fath gyfaill y daeth Wil Bryan iddo! A'r fath chwerthin iachus oedd drwy'r teulu oll pan ddarllenai Henri yn y gegin nos Sadwrn hanes Wil a'r clòc, neu ei siars i Rhys Lewis, neu hanes Thomas Bartley, 'tw bi shiwar,' yn cael ei dderbyn yn aelod, neu yn ymweled â Dr. Edwards yn y Bala! Yn nesaf at y Beibl, Rhys Lewis' a 'Thaith y Pererin' yw ei lyfrau anwyl; ond nid yw yn darllen un llyfr ar nos Sul ond y Beibl a hanes Cristion.

Ond yr wyf wedi cymeryd fy nhemtio i ddweyd mwy nag a feddyliais. Nid hanes Henri yr wyf am ysgrifenu, ond hanes Gwilym a Benni Bach.

Yr hyn oeddwn am ddweyd oedd fod Gwilym yn gwybod Taith y Pererin' yn dda. Weithiau byddai yn cymeryd y gyfrol fawr ac yn ei hagor, ac yn dweyd ystyr y lluniau wrth Benni Bach. Yr oedd y stori o hyd yn newydd. Ni flinai un na'r llall ar glywed am y Bydol Ddoethyn a'r Efengylydd, am Ffyddlon yn marw Ffair Gwagedd, ac Apollyon yn cael ei goncro yn y Dyffryn. Ond o bob peth yn y llyfr, nid oedd dim oedd y plant mor hoff o hono a hanes Cristion yn y Ty Prydferth. Ni flinent byth ar glywed am y genethod glanwedd oedd yn arfogi Cristion cyn iddo ddisgyn i Ddyffryn Darostyngiad. Methai Gwilym yn lân a deall paham y bu Cristion mor ffôl ag ymadael erioed â'r fath gartref dedwydd.