Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Pam na fydde fe'n aros yno, mami?' meddai. 'O' medd Elen, 'eisieu myn'd i'r wlad well oedd arno fe.'

'Ond 'ro'dd e'n eitha' sâff yn y Ty Prydferth, ond o'dd e'?'

Wel, o'dd,' meddai Elen.

'Wel, pam o'dd e'n 'madel i fyn'd i ymladd â'r hen Apollyon 'te?'

Ac i hyn nid oedd un ateb boddhaol i'w gael,
******
Cred ddiysgog Gwilym oedd, mai yr ochr arall i Dywi, gerllaw Llangoediog, y safai y Ty Prydferth. Yr oedd weithiau yn gofyn i'w dad, pan oedd yn cychwyn i farchnad ddefaid Llangoediog,

'Dyta, fyddwch chi'n myn'd ar bwys y Ty Prydferth heddi?'

'Wel, gobeitho y bydda i,' atebai Henri, yn ffaelu a bod o'r galon i dori ar ddychmygion diniwed y plentyn.

Ga i ddwad gyda chi?'

'Na, ddim heddi; mi gei di ddwad yto rywbryd pan fyddi di'n henach.'

Ac felly o fis byddai disgwyliadau Gwilym yn cael eu siomi.

Ond o'r diwedd daeth dydd pan nas gallai Gwilym aros yn hwy. Yr oedd yn ddiwrnod gerwin yn yr Hydref, pan mae'r coed yn cwyno ar ol eu dail ac yn crynu yn yr oerfel. Yr oedd Elen wedi gwahardd y plant i fyn'd i'r ysgol rhag iddynt gael anwyd. Ond wrth edrych ar lun y Ty Prydferth gyda Benni Bach yn y neuadd, daeth hiraeth mawr fel tòn dros galon Gwilym am weled y Ty Prydferth a siarad â'r genethod oedd yn byw yno. Ni ddywedodd air wrth neb, ond aeth allan i'r gegin, lle'r oedd Marged yn golchi'r llawr.

Nawr Gwilym,' meddai Marged, 'peidwch chi dwad ffordd hyn i ddwyno'r llawr ar 'yn ol i â'ch trâd brwnt.