'Cerwch chi i aros i'r nouadd ne' dyma fi yn galw ar eich mami!!
Ni ddywedodd Gwilym air am beth amser. mhen tipyn meddai,
'Faint o ffordd sydd odd'yma i Langoediog, Marged?'
'Yn enw dyn, beth sy' ar y crwt bach' atebai Marged. 'Pwy ishe gw'bod hyny sy arnoch chi?'
'Na gwedwch, Marged fach,' dywedai Gwilym, ac aeth y gwalch bach ymlaen ati a dododd ei law am ei gwddf diraen. Nis gallai Marged ddal yn erbyn hyn. Rhyw filltir a haner, 'y nghalon i' meddai, a'i llais wedi tyneru mewn eiliad. 'Nawr, cerwch o'n ffordd i, dyna fachgen da, ne me ga' i stwr am beido gneyd 'y ngwaith.'
Ymaflodd Gwilym yn ei gap, ac aeth allan i'r awyr oer heb na chot fawr na chrafat i'w ymgeleddu.
Nis gallai Gwilym feddwl am ddim ond am y Ty Prydferth. Aeth allan o'r clôs, a dilynodd y ffordd fawr ar hyd yr hon yr oedd wedi gweled ei dad. yn teithio lawer gwaith tua'r farchnad. Cerddodd yn gyflym nes iddo droi'r tro a myned o olwg Plas Newydd, ac yna, ar ol pasio'r efail, cafodd ei hunan mewn gwlad oedd yn hollol ddieithr iddo. Edrychai gyda syndod a braw ar y coed tàl oedd yn taflu eu cysgodion dros y ffordd, a thybiai na welodd erioed y fath goed mawr o'r blaen. Wrth groesi pont, dan yr hon y rhedai afonig fechan, credai ei fod yn clywed swn oeraidd yr Iorddonen. Yr oedd pob cam a gymerai yn ei adgoffa o rywbeth neu gilydd yn hanes Cristion, ond ni synai—yn wir, ni ddaeth i'w feddwl—fod trefn y daith wedi newid ychydig oddiar pan yr oedd Cristion wedi tramwyo y ffordd. Digwyddai pethau yn blith drafflith, ond ni wnai hyn greu un drwg-dybiaeth nac amheuaeth yn ei feddwl bach. Ar y llaw dde gwelai wàl uchel, yr hon a