amgauai berllan y Plas Mawr, a meddyliai mai hon oedd. y mur dros ba un y neidiodd Ffurfioldeb a Rhagrith. Ychydig yn nes ymlaen gwelai afal unig ar 'bren Morgan Niclas yn hongian dros ben y wàl, a thybiai mai ffrwyth y gelyn oedd, o'r hwn y bwytaodd plant Cristiana. Ac yna gwelai gamfa yn y clawdd, a chredai mai dyma'r gamfa oedd yn arwain i Gastell y Cawr, a bu am beth amser yn chwilio yn ofnus am y penillion yr oedd Cristion wedi gerfio ar golofn i rybuddio pererinion o'u perygl. Wedi hyny cyfarfu a gwr yn cerdded i gyfeiriad Plas Newydd. Tosturiodd ei galon wrtho ac nis gwyddai yn iawn p'un a'i Meddal a'i Anwybodus allai fod yn dychwelyd yn ol i Ddinas Distryw. Penderfynodd un waith i siarad â'r ynfyd-ddyn, fel y gwnaeth Cristion o'i flaen, ond fel y dynesai y gwr ato, syrthiodd arswyd a dychryn arno, ac aeth heibio, heb ddweyd gair, gan benderfynu na wnai ef, beth bynag, ddim troi ei gefn ar y wlad well.
Erbyn hyn yr oedd yn teimlo yn oer ac yn finedig, ond er fod hiraeth am gartref yn tynu wrth linynau ei galon, ymlaen yr elai o hyd. Credai ei fod wedi teithio milltiroedd lawer, pan nad oedd lawn filltir o Blas Newydd. Treiai gadw i fyny ei ysbryd drwy feddwl am rai o'r penillion hyny yr oedd Cristion mor hoff o ganu ar y ffordd, ond rywfodd ni roddent iddo gymaint cysur yn yr oerni ar yr heol noeth ag a wnaethent wrth ochr tân y neuadd ym Mhlas Newydd. Mynych y pallai ei benderfyniad. Arosai 'nawr ac yn y man i edrych oddiamgylch, ac weithiau byddai yn gwanobeithio wrth gofio pa mor aml yr oedd Cristion yn yr hanes wedi colli ei ffordd. Ond cymerai gysur drachefn, ac er fod ochenaid yn gwasgu allan o'i anfodd ambell waith, ac er fod ei lygaid yn dechreu llanw o ddagrau, ni roddai fyny yr ymdrech. Ac yn ddisymwth, ar ol troi tro yn y ffordd, gwelai dy, braidd