A phwy ych chi 'nte?' ebai'r eneth ym mhen ysbaid.
'Gwilym Plas Newydd w i,' atebai'r plentyn.
'A pham o'ech chi am wel'd y Ty Prydferth?' ebai'r eneth drachefn.
Yr oedd Gwilym bron wylo erbyn hyn, er holl garedigrwydd y forwynig.
'O, 'rown i'n meddwl,' dywedai, y ceswn ni fyw o hyd yndo fe gyda Phwyll, a Chariad, a nhw i gyd, a fyswn i byth ym myn'd bant o wrthyn nhw, byth, byth. A mae llun Cariad yn gymws yr un peth a chi
'Odi e', machgen bach i!' ebai'r Forwynig, a'i llygaid yn gwlitho yn fwy fyth, wrth godi Gwilym yn ei breichiau, a gwasgu ei ben cyrliog at ei grudd. 'Ag 'rych chi wedi dwad i wel'd Cariad yn y Ty Prydferth, odi chi? Wel, mi gewch chi i gwel'd hi, a cewch !'
A'r Forwynig a gymherth Gwilym i'w nhodded, ac â'i dygodd i'r ty, gan alw ar ei mham. A hi â'i rhoes ef i eistedd wrth dân hawddgar mewn ystafell brydferth, ac a eisteddodd yn ei ymyl, gan ei gynhesu a'i gusanu ac ymddiddan âg ef mewn geiriau caredig a difyr. Ac ym mhen ysbaid ei mham a alwodd ar un o'i llawforwynion, a hi a roddes iddo ddiod a lluniaeth. A Gwilym a drigodd y dydd hwnw ym Mryn Hyfryd, gan wledda ar ddanteithion melus, ac adrodd hanes Cristion wrth y Forwynig a'i mham.
Ac yn y cyfamser, danfonwyd negesydd i Blas Newydd i ddweyd wrth y teulu pryderus fod y pererin bach yn ddiogel yn nhy Mrs. Bevan, gweddw Mr. Bevan, y Siop Fawr, Llangoediog.
A phan oedd y prydnawn yn dechreu cilio o flaen llwydnos, a lleni y nos yn disgyn dros y bryniau ar y dyffryn tawel, daeth Henri i ymofyn Gwilym o Fryn