Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD V.

GWEDDI GWILYM A BENNI.

Holwr heb ei ail oedd Gwilym. Yr oedd am wybod y cyfan am bawb a phob peth, ac ni fu cyfreithiwr erioed mor anodd ei dwyllo ag atebiad amhenodol. Yr oedd Elen, druan, wedi hen orfod rhoddi y goreu iddo, ac yr oedd ei dad yn dechreu ofni ei gwestiynau treiddgar.

Nid oedd dim yr oedd Gwilym mor hoff o wneyd a gofyn cwestiynau ynghylch y Beibl. Un dydd Sul, pan oedd Gwilym o gylch seithmlwydd oed, yr oedd Mr. Jones, gweinidog Salem, wedi bod yn pregethu ar y geiriau Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.' Arfer Mr. Jones bob amser oedd parotoi bwyd cryf i'r cedyrn, a bwyd gwan i'r gweiniaid. Ei gyngor yn wastad i bregethwr ieuanc oedd,

'Cofiwch, 'y machgen i, fod yn yr Eglwys, fel yn y byd, amrywiol ddoniau, ac mi ddylech roi rhwbeth iddyn nhw gyd. 'Dall Mari Tyffald, druan, ddeall dim ond stori fach,—a 'do's gyda chi ddim hawl ei starfo hi er mwyn esbonio dyrus bethau'r ffydd i'r diaconiaid. Peidwch codi'r rhastal yn rhy uchel, 'y machgen i, neu cheiff yr wyn a'r defaid bach ddim bwyd. Ac nid y rhai sy'n deall fwya sy'n gneyd y crefyddwyr goreu'n wastad.'

Ni fyddai Mr. Jones, felly, byth yn pregethu hyd yn oed bregethathrawiaethol,' heb ddweyd stori fach, neu wneyd cymhwysiad syml ac agos o'r gwirionedd oedd ganddo dan sylw. Dywedai llawer fod hyn yn wendid. ynddo. Yr oedd yn ddoniol gwel'd fel yr oedd Daniel