y Bryn, y diacon henaf a'r gwr callaf yn Salem, yn agwrando ar Mr. Jones. Clustfeiniai ar y rhagymdrodd; eisteddai yn syth a byddai gwen foddhaus ar ei wyneb pan fyddai'r pen cyntaf yn cael ei drafod; yna delai'r stori,—a phlygai Daniel ei ben a chauai ei lygaid mewn cywilydd; ond pan ddelai'r pen diweddaf, agorai ei lygaid drachefn, a dangosai yn amlwg ei fwynhad. Ond, boed gwg, boed clod, yr un peth wnelai Mr. Jones.
Tynwch sylw'r bobl a 'ch brawddeg gyntaf, 'y machgen i' arferai ddweyd. Ymresymwch ar eich pwnc yn y pen cyntaf—ceffyl cryf ddylai fod yn y shaft. Cymhwyswch eich gwirionedd yn y diwedd ceffyl pert sydd eisieu yn geffyl blaen; a dodwch eich ceffyl useful rhwng y ddau.'
Beth bynag am werth ei gynghorion, y mae yn sicr fod Mr. Jones yn eu dilyn, ac mai efe yw'r pregethwr mwyaf poblogaidd yn y sir. Ac nid yw, yn ol arfer rhai, wedi enill ei boblogrwydd oddicartref drwy esgeuluso ei eglwys ei hunan, o herwydd y mae yn parhau o hyd yn ei boblogrwydd yn Salem. Ond hyn sydd wedi fy synu lawer gwaith—mai y ceffyl useful, fel dywedodd yntau, sydd yn gwneyd y gwaith goreu. Mae'r pen cyntaf yn boddhau Daniel y Bryn, ac ambell un arall; mae'r cymhwysiadau pert, miniog yn cael effaith angerddol ar y pryd; ond yr hyn a ddywed, megis mewn cromfachau, rhwng y ddau, hwnw sydd yn gafael yng nghof a chydwybod y rhan fwyaf o'r bobl!
Ac fel hyny y bu pan oedd yn pregethu ar daer weddi y cyfiawn.' Bu yn siarad am ychydig fynudau, ynghanol ei bregeth, wrth yr hen wragedd a'r plant. Defnyddiai eiriau syml, dirodres, hawdd eu deall, hawdd eu 'styried,' ys canodd yr Hen Ficar.
'Ie,' dywedai Mr. Jones, 'pe tae gyda chi ond cymaint a hedyn mwstart o ffydd, chi allech wneyd i'r