Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mynydd Du dreiglo i'r môr. Ond mae'n rhaid fod genych ffydd, mae'n rhaid i chi gredu y ceiff eich gweddi ei hateb. Rhaid i chi beido bod fel yr hen wraig hono fu'n gweddio wrth fyn'd i'r gwely ar i'r Arglwydd symud ymaith y mynydd oedd o flaen drws ei thy. A phan gododd boreu dranoeth a gweld y mynydd yno, 'rown i'n meddwl' meddai, 'mai man hyn y byset ti wedi'r cwbl.'

Yr oedd Daniel y Bryn yn cauad ei lygaid ac yn crychu ei dalcen, ac yr oedd gwên ledwawdlyd ar wyneb Mr. Thomas, yr hen ysgolfeistr, wrth glywed Mr. Jones yn disgyn i 'glebran' fel hyn. Ond, wedi'r cyfan, dyna'r hyn lynodd wrth feddwl y gynulleidfa, ac yn enwedig wrth feddwl Gwilym.

'Mami' meddai ar giniaw, ar ol myn'd gartref, 'a fyse'r mynydd wedi mynd bant i'r môr ta'r hen feniw yn credu y bydde fe'n myn’d?'

'Bydde, o bydde,' ebai Elen yn frysiog, oblegid yr oedd yn ofni beth oedd yn dyfod.

'A roiff Iesu Grist bob peth i fi os bydda i'n credu ca' i e?'

Gneiff' atebai Elen, os bydd e ar eich lles chi i ga'l e.'

'A neiff e i fine, mami?' gofynai Benni Bach. 'O gneiff 'y machgen i,' meddai Elen. Cerwch chi mlan a'ch cino' nawr, ne mi oerith y tato.'

'A ta tyta ddim ond gofyn iddo fe a chredu,' meddai Gwilym, ar ol tipyn o ystyriaeth, 'fyse Tywi ddim yn llifo dros y ceie?'

'Na fyse, wrth gwrs,' dywedai Elen yn swrth, tra 'roedd Henri bron a thori allan i chwerthin.

'Wel, pam na fyse tyta yn gofyn 'te?' meddai Gwilym, oblegid un o brif helbulon Henri yn y gauaf a'r gwanwyn oedd y difrod a wneyd gan lif yr afon.