Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VI.

BREUDDWYD BENNI BACH.

Nis gellir dirnad y gwahaniaeth wnaeth siwrne Gwilym i'r Ty Prydferth ym mywyd y ddau blentyn Yr oedd Cariad,' fel y mynai Miss Bevan iddynt ei galw, byth a hefyd ym Mhlas Newydd ar ol hyny, yn chwareu â'r plant, neu yn adrodd hanesion a dychmygion wrthynt. Ni chafodd neb erioed ffyddlonach gwrandawyr nag a gafodd Cariad yng Ngwilym a Benni Bach. Mynych y dychmygaf weled eto o flaen fy llygaid un o'r golygfeydd dedwydd hyny, pan fyddai Gwilym a Benni o'i hamgylch, yn lygaid ac yn glustiau i gyd, yn clywed am y tro cyntaf yr hanes am ddewrion Arthur a'r Ford Gron, neu am ystranciau y Tylwyth Teg, neu am wrhydri Buddug a Gwenllian, neu ryfeddodau gwlad Arabia, a mil a mwy o bethau ereill na ddaeth i'w gwybod na'u mheddwl erioed o'r blaen. A gwelaf, hefyd, yn eglur, ddarlun prydferth o'r Forwynig hygar, a'i llygaid yn dyhidlo sirioldeb, a'i gwallt eur-sidanaidd yn ffluwch, a'i gruddiau yn wridog gan fywyd nwyfus, a'i gwefusau—ond pa ham y gwnaf geisio desgrifio'r olygfa? Wrth edrych arnynt eill tri gyda'u gilydd nis gallai nag Elen na Henri na finau beidio teimlo'n calonau cynhesu at yr hon oedd wedi llithro i'n bywyd, fel pelydr haul ar foreu teg, i sirioli a goreuro y pethau distadlaf a ddigwyddai i ni.

Nid y plant yn unig oedd yn mwynhau yr ystorïau. Gwnai Elen ryw esgus neu gilydd i fod yn agos i gael clywed am y rhyfeddodau. Eisteddai wrth ochr y