Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwrdd â sanau i gwyro neu waith gwnio, ac os byth y gallai, tynai Henri ei gadair at y goleu gan esgus darllen ei lyfr newyddaf neu'r Faner,' neu bryd arall, byddai yn llawn helbul yn ceision gosod ar gof a chadw yn y llyfr cownt' faint. oedd wedi dalu i'r wniyddes dros Marged y llaethwraig, neu faint oedd Tom y waginer wedi gael o'i gyflog i fyn'd i ffair Gwyl Barna. Ond fel yr elai Cariad ymlaen â'i stori, anghofiai Elen ei sanau a Henri ei drafferthion arianol, ac yr oeddem ninau ein tri mor awyddus i glywed y diwedd a'r ddau blentyn. Am danaf fi fy hun, nid gwiw i mi wadu i mi wario llawer mwy o amser ym Mhlas Newydd ar fy ngwyliau yr haf hwnw, nag oedd yn weddus mewn bachgen wyth ar hugain oed, oedd ond wedi newydd dechreu byd yn Abertawe fel meddyg. A phan elai Cariad yn ol i'r Ty Prydferth, awn inau i'w hebrwng heibio i goed tywyll y Plas, yn methu dweyd llawer wrthi, ond O! yr oedd fy nghalon yn myn'd mor gynted a chalon Myfanwy yng ngardd Dinas Bran. Ac ar ol i Gariad roddi ei llaw dyner yn fy llaw i wrth ddweyd ei Nost da' serchog ar drothwy drws Bryn Hyfryd, byddwn yn cerdded yn ol i'r heol fawr ac yn gwylio'r ty hyd nes y byddai'r holl le yn dywyll ac yn dawel, ac wrth fyn'd gartref byddwn yn mwmian canu'r 'Deryn Pur,'

Pan ei gwelas, syth mi safas
Yn fy nghalon mi feddylias,
Wele'r ddynas, lana'r deyrnas,
A'i gwên yn harddu'r oll o'i chwmpas,
Ni fynswn gredu un dyn byw
Nad oedd hi ryw angylas.

Maddeu im, ddarllenydd anwyl, am dy dywys fel hyn oddiar y ffordd, ond y mae yn anodd osgoi weithiau dweyd gair o brofiad personol. Ac os y cafodd ymweliadau Miss Bevan â Phlas Newydd gymaint o effaith arnaf fi, yr hwn wyf wr llariaidd a chyffredin,