Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/44

Roedd gwall wrth brawfddarllen y dudalen hon

nid oes eisieu dweyd iddynt gael dylanwad llawer mwy ar 'y pererin bach' fel y galwai hi Gwilym, ac ar Benni ei frawd. Ym myd y dychymyg y byddai'r ddau fyw am ddiwrnodau ar ol un o'i hymweliadau, ac yn y nos breuddwydient freuddwydion am bobl a gwledydd a phethau na chlywodd neb son am danynt erioed.

Y mae pawb ym Mhlas Newydd yn credu mewn breuddwydion. Gwir fod Henri yn esgus gwneyd spri am ben Elen a'r morwynion ambell waith am eu bod yn dodi cymaint o dda arnynt, ond yr wyf yn dirgel gredu, ys dywed Mr. Jones, Salem, fod Henri a mwy o ffydd ynddynt nag yw yn foddlon cyfaddef. Yr wyf yn cofio dadi frwd iawn yn yr Ysgol Sul Tin tro ynghylch breuddwyd Pharaoh. Yr oedd Tomos y Crydd yn chwerthin ar ben y cyfan.

'Lol i gyd yw meddwl,' meddai, 'fod dal ar freuddwydon. Hawyr bach, odi dyn yn gallach pan mae e'n cysgu na phan mae e ar ddihun? Os yw e, gore i gyd pwy hwya y cysgwn ni! Gaton ni, pwy synwyr sy yn y fath beth?'

'Wel,' meddai Henri, 'odi chi ddim am ddweyd na ddylen ni ddim credu beth mae'r Beibi yn ddysgu?'

'Daf fi ddim i ddweyd,' atebai Tomos, 'nag o'dd Duw yn llefaru yn yr amser gynt mown llawer dull a llawer modd. Yr oedd e'n arfer gneyd gwyrthie—os gwyrthie i gwei'd 'nawr? 'Rodd prophwydi yn arfer bod ar y ddaear—'do's dim Tin i ga'l 'nawr tu fas i'r Almanac. A pham y credwn ni'n ots am freddwydon?'

Nid yw Elen a Marged y llaethwraig yn cytuno, serch hyny, yn eu dull o ddeongli breuddwydion. Edrycha'r ddwy ar freuddwyd fel alegori. 'Y saith mlynedd newyn yn yr Aifft,' y mae Elen yn hoff o ddweyd, ro'en nhw'n ca'l eu dangos dan ffurf saith o dda culion. Fel'ny,' dyw breuddwyd ddim i ga'l ei ddeongli ond fel cysgod a rwbeth arall'