Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond tra yr oedd y ddwy, Elen a Marged, yn cytuno yn hyn, yr oeddynt yn gwahaniaethu yn eu barn ynghylch un peth pwysig iawn. Yr oedd Marged yn dweyd y dylid deongli breuddwyd i'r gwthwyneb.' Fel hyn; os y breuddwydiai hi y cawsai gariad newydd yn Ffair Galan Mai, byddai hyny'n arwyddo na chai gariad newydd am saith mlynedd. O'r ochr arall, yr oedd Elen o'r farn fod breuddwyd yn gysgod o'r hyn oedd i ddigwydd, ac er fod y cysgod, feallai, yn gwahaniaethu rhywfaint oddiwrth y gwrthrych, eto ei fod yn ddigon tebyg iddo, i alluogi dynion hysbys' i adnabod beth oedd i ddisgyn i ran y breuddwydiwr.

Bu amser pan y credai Elen fod dàl ar freuddwydion plant, ond yr oedd hyny cyn i Benni Bach ddadblygu ei gyneddfau breuddwydiol. Nid oedd Elen wedi colli pob ffydd ym mreuddwydion Gwilym, ond am Benni Bach—o'r braidd yr oedd yn foddlon gwrando arno yn adrodd ei freuddwydion wrth y ford ar frecwast. Un noswaith breuddwydiodd Benni fod cyrn wedi tyfu ar ei ben.

A ro'en nhw'n tyfu at eu gilydd,' meddai, 'fel cyrn Crabi,' (un o'r gwartheg).

'Beth sy' ar y plentyn?' dywedai Elen. Cyrn yn tyfu ar eich pen chi? Mi gymersoch chi ormod o gawl i swper neithwr. Rhaid i fi beido rhoi swper i chi o hyn i ma's.'

Ond nid ffolineb oedd y breuddwyd yng ngolwg Marged y llaethwraig.

'Rhaid i chi ei ddeongli e i'r gwrthwyneb, mystres fach, meddai Marged. Ei ystyr e yw, 'stim dowt, na fydd byth gyrn ar ben Benni Bach, ond y bydd cyrn ar ei drad e.'

Ar noswaith arall breuddwydiodd Benni Bach ei fod wedi cael gafael mewn syfien fawr y fwyaf welwyd dan haul yn Rhandir Cae Mawr. Yn ei freuddwyd tybiodd ei fod ef a Gwilym wedi bwyta twll mawr yn y