syfien oedd yn ddigon i'w gollwng eill dau i mewn iddi, ac iddynt i fyw am ddiwrnodau dan ei chysgod—fel y bydd milwyr fyw mewn pabell. Mor gryf oedd yr ar graff adawodd y breuddwyd ar ei feddwl, ac mor sicr y teimlai y gallai fyn'd yn gymhwys at y fan a'r lle, fel aeth ef a Gwilym i'r cae i chwilio am dani; ond er chwilio am oriau, ni welwyd byth mor syfien.
Ond breuddwyd mwyaf nodedig Benni Bach oedd breuddwyd 'Brenhin y Tylwyth Teg.' Yr oedd Miss Bevan wedi bod yn dweyd hanes y Tylwyth Teg wrth y plant, ac yn desgrifio'r bobl fychain a welodd y Bardd Cwsg yn dawnsio yn eu capau coch, fel haid o Šipsiwn, ar ben y mynydd. A'r noswaith hono, breuddwydiodd Benni Bach ei freuddwyd mwyaf hynod.
'Gwilym,' meddai yn gynar boreu dranoeth, gan eis— tedd yn syth yn y gwely, a'i lygaid heb eithaf agor.
Yr oedd Gwilym yn cysgu'n drwm wrth ei ochr. Edrychodd Benni Bach arno am fynud. Yna gorwedd— odd yn esmwyth, tynodd y dillad dros ei ben cyrliog, a cheisiodd fyn'd i gysgu drachefn, gan furmur wrtho ei hun;
'Treuni ei ddyhuno fe.'
Mewn ychydig anesmwythodd drachefn, taflodd y dillad gwely oddiar ei wyneb, ar arosodd am rai mynudau yn syllu ar ddwy gleren yn chwareu rhwng ei ben a'r ceiling. Ond yn fuan cododd ar ei eistedd yr ailwaith. Edrychodd drachefn ar ei frawd; dododd ei law ar ei ysgwydd,
'Gwilym,' meddai yn ddistaw yn ei glust, 'Gwilym.' 'Be' sy'n bod?' gofynai Gwilym heb agor ei lygaid. 'O, dyna freuddwyd ges i neithwr,' dywedai Benni. 'O, gellw i fi gysgu,' meddai Gwilym yn go sarug. Arosodd Benni Bach yn ddistaw am beth amser, ond eto aeth ei awydd i ddweyd yr hanes yn drech na'i deimlad dros ei frawd.