'Hen ddyn bach bitw, bitw o'dd e',' dywedai Benni, 'lawer llai na babi Pen Cae, ond 'ro'dd gydag e' drâd mowr, mowr, ag 'ro'dd i wishgers e'n cwrdda'r llawr.'
'Ych y fi!' meddai Gwilym, 'wi'n falch nag y fi gwelws e'.'
Ag 'ro'dd i laish e' fel llaish Wil Tanlan yn canu bâs,' aeth Benni ymlaen i ddweyd.
A beth 'nath e' wed'yn?' gofynai Gwilym.
'Ro'dd gydag e' ffon fach yn ei law,' meddai Benni, 'a dyma fe'n bwrw'r llawr a hono, ag yn gweyd,
Cer ffor' hyn,
Cer ffor draw,
Hindda heddi,
Fory glaw.'
'Dyna beth mae Marged yn weyd,' torai Gwilym i mewn.
Ag yna,' dywedai Benni, 'dyma dwll mowr yn agor yn y ddaear na welse fe ddim o'r gwaelod! Dyna lle wi'n byw', mynte'r Brenhin, mae'n rhaid i chi ddwad gyda fi.' A dyma fe'n clymu hancisher dros ein llyged ni, fel ta ni'n myn'd i whare 'mangu lath,' a lawr o'en ni'n myn'd am oriau.'
'I genol y ddaear?' gofynai Gwilym.
'Ie, i genol y ddaear,' atebai Benni. Ag o'r diwedd. dyma ni'n dwad i'r cenol yn deg, a dyma'r Brenhin gweyd, Dyma'r lle wi'n Frenhin.' Ag wedyn mi dynws yr hancisher o ar ein llyged ni, ag O! dyna le pert o'dd yno!'
'Beth o'dd 'no?' gofynai Gwilym, yn lygaid i gyd. 'Yn y cenol 'ro'dd yno gader,' ebai Benni, gan siarad yn bwyllog, 'o'dd wedi ei gneyd o our i gyd, ag ar hono 'ro'dd y Brenhin yn ishte. Ag ar ei phwys hi 'ro'dd cader o arian i gyd, ag ar hono 'ro'dd meniw fach, 'run peth a'r feniw fach o'dd ym byw yn ei hesgid, yn ishte lawr. A rownd amboitu 'ro'dd milodd ar filodd o ddynon bach a wishgers hir yn ishte ar gadeire bach o