Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

our neu o arian. Pwy yw'r 'rhain?' mynte'r feniw fach, gan bointo ato ni—hi o'dd y Frenhines. 'Gwilym a Benni Bach,' mynte'r Brenhin. Bant â'u pene, bant â'u pene,' mynte'r dynon bach gyda'u gilydd.'

Beth 'nethon ni wedyn?' gofynai Gwilym, braidd yn ffaelu cael ei anadl gan ei ddychryn.

'Neson ni ddim byd,' atebai Benni, wa'th 'ro'dd arno ni ormod o ofon. Ond mynte'r Frenhines wrth Brenhin, ‘Beth mae nhw wedi 'neyd?' 'Roen nhw'n demshgyn ar y glaswellt yng nghylch y Tylwyth Teg,' mynte fe. Bant a'u pene, bant a'u pene,' mynte'r dynon bach i gyd wedyn.

Falle nag oen nhw ddim yn gwbod,' mynte'r Frenhines. Nag oen ni wir, yn wir,' mynte nine.'

Beth wedodd hi wedyn,' gofynai Gwilym.

'Peidwch tori pene nhw bant,' mynte hi, 'ond gnewch nhw i fyta'r fale sur.' 'Byta'r fale sur, byta'r fale sur,' mynte'r dynon bach gyda'u gilydd. A dyma'r hen Frenhin yn gofyn, 'P'un well geno chi gael tori 'ch pen chi bant ne fyta'r fale sur.' ' 'Byta'r fale sur,' medde nine. O'r gore, 'te,' mynte'r Brenhin, dewch chi gyda fi. A gydag e' yr ethon ni, nes i ni ddwad o'r diwedd i berllan fowr yn llawn o fale surion bach. 'Nawr,' mynte'r Brenhin, 'bytwch chi afal o'r pren hyn, gan bointo at y pren cynta'. A dyma nine'n byta'r fale, a 'doen nhw ddim yn sur o gwbwl!'

'Ddim yn sur?' dywedai Gwilym, 'Pa'm oen nhw'n galw nhw'n fale sur 'te?'

'O, nid am i bod nhw'n sur,' atebai Benni, ond am i bod nhw'n gneyd i'r dynon o'dd yn i byta nhw i ddryched yn sur.'

'Own i'n dryched yn sur?' gofynai Gwilym.

'Rown i ddim yn dryched arno fe ar y cynta,' meddai Benni. Wath gyda'n bod ni wedi dybenu byta'r fale, 'rodd y Tylwyth Teg wedi gneyd ring amboitu ni, a