Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWILYM A BENNI BACH.

PENOD I

GWILYM A BENNI BACH.

Yr wyf yn cofio fel ddoe y tro cyntaf y gwelais Gwilym a Benni Bach, er fod blynyddau oddi ar hyny, erbyn heddyw. Teir-blwydd oed oedd Gwilym ar y pryd, ac yr oedd Benni Bach flwydd yn iau. Cerdded уг oeddwn, ar ddiwrnod teg yn yr haf, o stesion Llanelwid i Blas Newydd, lle'r oedd fy chwaer yn byw. Gwyddwn fod Henri fy mrawd-yng-nghyfraith ynghanol y cynauaf gwair, ac nid oeddwn am iddo ddanfon ceffyl i gyfarfod â'r trên ar amser mor stresol. Ac felly, nid oeddwn wedi ynganu gair wrtho pwy awr o'r dydd y cyrhaeddwn Llanelwid; ond yn unig y buaswn ym Mhlas Newydd rywbryd dydd Sadwrn. Hawdd ddigon oedd cael gafael yn y ffordd i'r Plas. Yr oedd yr heol fawr yn rhedeg heibio i'r ty, ac nid oedd dim i wneyd ond ei dilyn, ac, er nad oeddwn yn gyfarwydd iawn â'r ardal, deuais i odrau'r heol fach sydd yn arwain i glôs Plas Newydd, heb un anhap na chamsynied.

Ar waelod yr heol safai dau blentyn. Nis gwyddwn yn siwr p'un a'i merched bach neu fechgyn oeddynt; oblegid yr oedd gwallt y ddau yn hir ac yn gyrliog; ac yr oeddynt wedi eu gwisgo mewn ffroc a phais fach. Yr oedd yr henaf o'r ddau yn cydio yn llaw y llall, ac yn dangos yn eglur ei fod yn barod i'w amddiffyn rhag bob cam. Er na welais hwynt erioed o'r blaen, gwyddwn ar unwaith mai plant fy chwaer oeddynt, sef Gwilym a Benni Bach. Yr oedd gwallt cydynog modrwyog y ddau mor euraidd a'r fanadl; ond tra