Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyna lle'r oen nhw'n downso'n rownd i ni, fel ta nhw'n whare ring a ring a rosi, pic a pic a posi, ag yn sgrechen ag yn 'wherthin.'

Pa'm oen nhw'n 'wherthin?' dywedai Gwilym.

'Rown i'n ffaelu diall ar y cynta,' atebai Benni, 'ond fel 'roen nhw'n downso'n rownd i ni 'roen nhw'n canu,

Trwyn, trwyn,
Drych ar eu trwyn,
Ond ôs fath olwg ar eu trwyn.

'Hwfft!' meddai Gwilym, 'dyna beth mae Cariad yn ganu.'

Wel, ta beth,' ebai Benni Bach, 'dyna beth o'dd y Tylwyth Teg yn ganu. A miwn tipyn dyma fi'n clwed rhwbeth mas o le ar 'y nhrwyn, a dyma fi'n dedi'n llaw arno fe.'

'O'dd rhwbeth yn rong arno fe?' gofynai Gwilym. 'Ro'dd e' wedi pryfo nes o'dd i flân e'n cwrdda'r llawr,' meddai Benni Bach yn ddifrifol.

'O'dd 'yn un i hefyd wedi pryfo?' gofynai Gwilym, gan deimlo i drwyn rhag ofn fod y stori'n wir.

'Ro'dd ei un e' yn wath na'n un i!' atebai Benni, 'ond 'ro'dd 'y nhrwyn i yn streit a yn rhwbio yn erbyn y llawr o hyd. Ond 'ro'dd i un e' yn gam fel cryman, a fel'ny do'dd e' ddim yn rhwbio yn erbyn y llawr, ond 'ro'dd i flân e' wedi rowndo rhwng i gose fe.'

'Ych getsh!' meddai Gwilym, a ïas o ychryd yn rhedeg drwyddo, rwy'n falch na weles i e', ta beth.'

Ag ar ol gneyd spri ar'n pene ni am amser, dyma'r hen Frenhin,' ychwanegai Benni, yn gweyd, 'Nawr, chewch chi ddim myn'd gatre cyn y gallwch chi froch-gau y gaseg hyddug.' O gellwch iddi nhw i ga'l y trwyne bant,' mynte'r Frenhines. Na na i,' mynte'r Brenhin. Wel, gadewch i un o honi nhw 'te,' medde hi wedyn. O'r gore,' mynte'r hen Frenhin.'