Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'P'un o ni gas i wared e'?' gofynai Gwilym gan gydio drachefn yn ei drwyn.

'O,' meddai Benni, 'mi wedodd y Brenhin y ceien ni redeg râs a'n gilydd, a'r un ffyste gese golli ei drwyn.'

A ph'un ffystodd?' gofynai Gwilym.

'O,' atebai Benni, ro'dd 'y nhrwyn i ym bwrw yn erbyn y llawr o hyd, ag un tro mi cices e' nes o'dd e'n pistyllo'r gwaed, ond ro'dd i drwyn e' yn camu rhwng goese fe, a mi alle fe redeg yn ôl reit, a mi ffystodd e' fi o hewl.'

'A shwt colles i'y nhrwyn?' dywedai Gwilym.

Ar ddiwedd y ras' ebai Benni, 'dyma'r Frenhines yn dwad ymlan ato fe, ac yn rhoi poeri'r gwew iddo fe ar ddeilen dafol, ac ar ol i rwbio fe, mi gwmpws i drwyn ar y llawr o'i flaen e'. A dyma'r dynon bach yn gwaeddi ag yn screchen ag yn cydio yn y trwyn a'i gario fe bant gyda'u gilydd, ag yn gwaeddi,

Trwyn, trwyn,
Drych ar eu trwyn,
Ond és fath olwg ar eu trwyn.

'Ag o'dd i drwyn e' yn aros o hyd?' gofynai Gwilym. 'O'dd,' atebai Benni, 'ond ar ol iddi nhw fyn'd bant i gyd, dyma'r Frenhines yn rhedeg 'nol ag yn rhoi deilen dafol arall i fi a phoeri'r gwew erni. Rhwbiwch chi e' ar unwaith,' mynte hi, a gyda hyny, dyma fi yn dechreu tishan, a mi gwmpws 'y nhrwyn ine ar y llawr!'

A ffordd deson ni 'nol gatre?' gofynai Gwilym. 'Miwn tipyn,' atebai Benni, 'dyma'r hen Frenhin yn dwad 'nol wrth i hunan, a dyma fe'n gorwedd i lawr i fyn'd i gysgu. 'Drych di ar ol y ddau fredych hyn,' mynte fe wrth i wraig, ag yna mi ddechreuodd hwrnu nes o'dd yr holl le yn crynu i gyd. A dyma'r Frenhines yn dwad ato ni, ag yn gweyd, 'Licech chi fyn'd gatre, mhlant i?' 'Licen,' mynte nine. 'O'r