Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhoi sgrech ddychrynllyd,—a gyda hyny mi ddihunes.' ****** Nid oedd gan neb esboniad i roddi ar y fath freuddwyd, pan adroddodd Benni Bach ef yr ail waith ar frecwast. Er hyny, daeth 'Stori Brenhin y Tylwyth Teg' yn un o draddodiadau'r teulu, a mynych y gwnaeth Cariad i Benni Bach ei hadrodd ar hirnos gauaf wedi hyn, ac y mae'n rhaid cyfaddef fod y stori, cyn i'r gwr bach ddybenu a hi, wedi tyfu mor hired a'i drwyn ar ol bwyta afal sur y Tylwyth Teg.