Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VII.

CHWAREU INDIAID.

'Nwncwl,' meddai Gwilym wrthyf un diwrnod, 'a welsoch chi ddyn du ariod?'

Yr oedd Cariad, mae'n debyg, wedi bod yn dweyd rhywbeth wrth y plant yn ddiweddar am yr Ethiopiaid.

'Do, lawer gwaith,' meddwn inau.

Allan nhw ddim ca'l i golchi yn wyn?' gofynai Gwilym.

'Na allan,' meddwn inau, 'wath ma'r lliw du yn i gwa'd nhw.'

'Odi gwa'd nhw yn ddu, 'te?' meddai'r gwr bach. wedyn.

'Nag yw, am wn i,' dywedais, 'do's dim gwahaniaeth rhyngddo fe a gwa'd dyn gwyn.'

Be' sy'n gneyd nhw'n ddu 'te?' gofynai Gwilym. 'Nawr, yr wyf mor ffond o blant a nemawr i neb, ac y mae cymaint o amynedd genyf ag sydd yn werth i wr ei feddu; ond mae yn rhaid cyfaddef nad oeddwn yn foddlon i gael fy holi a'm croesholi fel hyn gan Gwilym. Atebais ef, gan hyny, braidd yn swrth.

'W'i ddim yn gw bod, 'y machgen i,' meddwn. 'Beth sy'n gneyd rhai pobol yn felyn ag erill yn goch?'

'Os dynon melyn a dynon coch i gâl? gofynai Gwilym.

'Os, ma pobol China yn felyn,' atebais, 'a mae'r Indied sy' yn America yn goch.'

'Shwd mae Indied, 'te, yn America? holai'r plentyn. 'Rown i'n meddwl taw yn India 'ro'en nhw'n byw.' Yr oeddwn yn y ddalfa, ac nid oedd modd diangid. Gwnes y goreu o'r gwaethaf, a chymerais haner awr,