Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu ragor, i ddweyd yr holl hanes wrth fy nai. Adroddais fel y darfu i Golumbus hwylio ymaith gan feddwl taro ar draws ffordd newydd i India, fel y darganfyddodd America ac y credodd mai India oedd y wlad, ac fel y galwodd y trigolion yn Indiaid.

'A nit Indied y'n nhw'n reit?' gofynai Gwilym.

Nage,' meddwn inau, 'do's dim shiwrans pwy y'n nhw. 'Ro'dd rhai yn arfer gweyd mai Cymry o'en nhw.'

'Shwt o'en nhw'n Gymry? holai Gwilym. 'Odi nhw'n gallu siarad Cwmrag?'

'Na, nit Cymry y'n nhw,' atebais, 'ond 'ro'dd yr hen bobol 'slawer dydd yn credu taw Madog, mab i un o frenhinoedd Cymru, oedd wedi câl gafel gynta' yn America, a mai plant Madog, neu y Madogwys, oedd yr Indied Coch. A mi dda'th un ffeirad 'nol i'r wlad hyn i ddweyd ei fod e' wedi bod yn trafaelu ar lan afon fowr yn America, ymhell o wrth un tre neu bentre, ag iddo gâl i ddala yn ddisymwth gan yr Indied coch. A dyma'r Indied, yn credu taw Sais oedd e', yn penderfynu ei ladd e'.

'O'en nhw'n lladd pob Sais 'te?' meddai Gwilym.

'O'en, y pryd hyny,' atebais.

'A fysen nhw'n lladd Mr. Hartland?' dywedai Gwilym.

'Gynta bysen nhw,' meddwn, gan chwerthin. A dyma nhw'n clymu'r ffeirad, â rhaff wrth stanc, medde fe, yn partoi gogyfer a'i losgi e'.'

'Pam o'en nhw'n i losgi e'?' gofynai Gwilym. '

O, dyna'r ffordd o'dd gyda nhw i ladd eu gelynion,' atebais. A phan oedd e' wedi câl ei glymu, a'r tân yn dechre cynu, dyma'r ffeirad yn gweddio'n Gymrag. Man clwodd yr Indied, dyma nhw'n dechre dryched ar eu gilydd, a dyma'u Capten nhw yn gweyd ym mhen tipyn, Hei'r dyn!' mynte fe, 'nit Sais 'ych chi?' Nage,' mynte'r ffeirad, Cymro bach w i o sir Drefald— wyn.' 'Cymry y'n nine hefyd medde'r dyn coch, a