'dyn ni ddim yn myn'd i ladd ein brawd.' A dyma fe yn gwasgar y co'd tân, ag yn tori'r rhaff, ag yn gellwn y ffeirad yn rhydd!'
Am mai Cymro o'dd e?' dywedai Gwilym.
Ie, medde fe; ond 'do's neb yn credu'r stori 'nawr.'
'Ond ta fe'n Sais,' ebai Gwilym, mi fysen nhw wedi ladd e'?'
'O bysen, yn go siwr,' atebais inau.'
Llawer gwaith bu yn edifar genyf ar ol hyn i mi ddechreu ar hanes y gwyr cochion. Ni chefais lonydd cyn i mi ddweyd yr oll a wyddwn—a mwy na'r oll— am Indiaid America,—fel y maent yn byw mewn wig-wams, ac yn dal ceffylau gwylltion a lassoes, ac yn 'scalpo' eu gelynion, ac yn tynu mwgyn o 'bib tangnefedd,' gyda llawer iawn o fanylion ereill oeddwn yn gallu eu cofio o ystorïau Fenimore Cooper a Mayne Reade.
Ychydig a wyddwn, serch hyny, i ba ddefnydd yr oedd fy neiaint yn dodi eu gwybodaeth newydd, a pha beth fyddai'r canlyniadau. Ni ddaethum i wybod y cyfan am fisoedd wedi hyn, oblegid bu raid i mi ddychwelyd yn gynt nag y disgwyliwn at fy nghleifion yn Abertawe. Ond gwnaf fy ngoreu i ddweyd yr helynt fel y clywais ei adrodd gan Elen a Henri a Chariad, er nad oeddwn yn llygad-dyst o hono. ****** Y mae yn debyg y byddai Gwilym yn ail—adrodd yr hanes am y bobl gochion wrth Tom Brynglas a phlant yr ysgol, ac yr oedd 'plant yr hewl isaf' yn gwybod, cyn bo hir, fwy am Indiaid America nag am drigolion un wlad arall dan haul. Un diwrnod teg, meddai Tom Brynglas yn ddisymwth,
'Beth ta ni'n gneyd wigwam, fechgyn?'
Rhoddwyd derbyniad croesawus i'r awgrym, ac ni fachludodd haul heb i'r cynllun gael ei berffeithio. Cyn pen wythnos yr oedd ty o wïail a rhedyn wedi ei godi yn y Cae Carw ar y ffordd rhwng Plas Newydd