a'r pentre. Ni fu erioed gwmni mwy hapus na byddin Tom Brynglas un prydnawn dydd Gwener yn y Cae Garw. Yr oedd y wigwam, erbyn hyn, yn barod, act yr oedd Tom a Gwilym a Benni Bach yn dathlu yr amgylchiad drwy fitshan o'r ysgol. Eisteddai Tom. wrth ddrws y wigwam, a phib glai yn ei geg, yn smoco dail troed-yr-ebol. Eisteddai Gwilym a Benn Bach ar bob ochr iddo, a'u coesau wedi eu croesi, fel dau deiliwr bach. Yn eu llaw dalient bob i bib glai ddu—iddo Tom y Waginer ond nid oedd ganddynt na dail na dim ynddynt, er y gwnaent esgus dynu mwg drwy-ddynt. Gerllaw yr oedd darnau o raffau, a chwlwm dolen ar bob un, ac o'u blaen, er ei bod yn ddiwrnod twym ym Mis Medi, yr oedd tân coed yn mygu ac yn flamio. Yr oedd difrifoldeb nid bychan ar wynebau brwnt y tri, ac am beth amser ni wnaent siarad gair a'u gilydd.
A welsot ti y mustangs ffordd hyn yn ddiweddar?' gofynai Tom Brynglas o'r diwedd, heb wên ar ei wyneb.
Naddo ddim heddi,' atebai Gwilym yr un mor ddifrifol. Ond tynai Benni Bach wrth ei bib heb ddweyd gair. Nid oedd golwg rhy dda ar y gwr bach erbyn hyn. Yr oedd ei wyneb yn welw, ac, ym mhen tipyn, gollyngodd i'r bib gwympo o'i law.
'Be' sy'm bod, Benni?' meddai Tom Brynglas. 'Stim byd yn bod arna i,' atebai Benni yn benderfynol.
Odi e'n dost?' meddai Tom eilwaith.
'Ma'r bib yma'n gryf, hefyd,' torodd Gwilym allan i ddweyd, gan osod ei un ef ar y glaswellt. Gwyddai Gwilym beth oedd yn bod.
'M-m-ma'r hen luwch yma o'r bib yn stico yn 'y ngwddwg i,' dywedai Benni o'r diwedd.