Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/6

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd llygaid du chwimwth ei dad gan Gwilym, yr oedd dau lygad ei fam gan Benni Bach, mor lased a'r cenin eu lliw, a dyfnder ynddynt fel pe tae'ch yn edrych i'r nefoedd fry.

Arosais am fynud heb ddweyd gair, yn edrych ar y ddau fychan yn sefyll law yn llaw ar ganol yr heol. Yr oeddynt hwythau yn syllu arnaf finau, y gwr dieithr, ac yn amlwg ddigon yn petruso beth i wneyd. Ond ym mhen eiliad dyma Gwilym yn rhoddi plwc i Benni Bach ac yn gofyn, gan edrych yn syth yn fy ngwyneb,

'Nwncwl Abartawe 'ych chi, ie fe?'

Wel,' meddwn inau, gan chwerthin, mae'n rhaid i fi gael gwbod yn gynta' pwy 'ych chi 'ch dou?'

'Plant Plas Newydd y'n ni, meddai Gwilym, a mae mami wedi gweyd wrtho ni am sefyll man hyn i 'weyd wrth 'nwncwl am fyn'd lan i'r ty drwy'r hewl fach.'

'O dir,' meddwn inau, a shwd 'ych chi'n meddwl mai fi yw'ch 'nwncwl?'

Ro'dd mami'n gweyd y byse 'nwncwl yn siwr o aros i 'ddryched arno' ni, wath 'ro'dd e'n wastod yn ffond o blant, meddai Gwilym.

Brysiais i newid yr ymadrodd.

'A pheth yw'ch enw chi, 'nte?' meddwn.

'Gwilym yw'n enw reit i, ond mae tyta'n ngalw i yn Wil, weithe,' meddai'r gwr bach.

Yr oedd yr un bach lleiaf wedi bod yn aros yn fud hyd yn hyn, heb dynu ei lygaid oddiarnaf fi, ond wrth glywed ei frawd yn siarad mor rhugl, dyma yntau yn dechreu cymeryd calon.

'A-a-a-a-' meddai, gan fethu, yn ei awydd i siarad, a dyfod a'r geiriau allan, 'a-a a-a-Benni Bach yw'n enw ine.'

'Wel, wel, o's cusan i 'nwncwl?' meddwn, gan blygu a gostwng fy mhen.