Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Dal di e atebai Gwilym, yn llawn zêl, a mi af fi i moin rhagor o fwyar.'

Yn ofer yr ymbiliai William am drugaredd a rhyddhad. Mewn ychydig daeth Gwilym a Benni yn ol a mwyar yn eu dwylaw. Tom Brynglas fu yn paentio gwyneb William yn goch, ac ni chafodd Jezebel well hwyl ar y fath waith.

Ond odi e'n dryched yn bert,' meddai,, ar ganol ei orchwyl. Yr oedd William, erbyn hyn, ar ei hyd ar y llawr, a Tom yn eistedd arno, a Gwilym a Benni yn helpi dal ei ben. Wo, my beauty! Stand you steady! Tipyn bach rhagor o liw coch ar i drwyn e'— wo 'na ti, machgen i—dyna fe 'nawr, 'ryt ti'n dryched fel ta ti wedi hyfed cymaint o licer a Dai Llwyncelyn.'

Ac ni chai haid o Indiaid fwy o ddifyrwch wrth ddawnsio o beutu carcharor nag a gai y plant wrth neidio a bloeddio o gylch corff syrthiedig William Jones. Yn wir, nis gallai William lai na chwerthin, ynghanol ei holl drallodion, wrth weled Benni, a'i wyneb yn goch fel cwmwl pan fachluda haul ar ddiwrnod têg, yn carlamu yma a thraw a gambwlet yn un llaw a bwa yn y llall!

Ond daeth diwedd trist a buan i'w pleser. Cyn iddynt feddwl am berygl, yr oedd Mr. Hartland a mintai fawr o blant yr ysgol ar eu gwarthaf. Nid gwiw oedd iddynt wingo yn erbyn y symbylau, na cheisio dianc rhag y llid oedd yn eu haros. Yr oedd Mr. Hartland wedi trefnu ei fyddinoedd ym mlaenllaw, ac wedi llwyr amgylchynu'r gwersyll. Gwnaeth Tom i Gwilym a Benni blygu ar eu gliniau a bwa a saeth. yn eu llaw.

Penliniodd yntau hefyd, ac yn y modd hwn, fel y Piwritaniaid gynt, disgwyliai y tri ruthr y gelyn. Anelodd Tom ei fwa, saethodd saeth, a chlwyfodd un o'r gelynion. Ond nis gallai Gwilym a Benni gadw eu saeth ar y llinyn, gan gymaint