eu dychryn, ac, felly, ar ol brwydr fèr ac anhyglod, gorfu iddynt daflu eu harfau i lawr, a chymerwyd hwy yn garcharorion gan fyddin yr ysgolfeistr. Datodwyd rhwymau William Jones, rhoddwyd Tom Brynglas i'w ofal, ac yna, cludwyd y tri mitsher, mewn gorymdaith orfoleddus, i'r ysgoldy.
Ni chawsant gyfle i amddiffyn eu hunain,—pe, yn wir, y gallent fod o'r wyneb i geisio gwneyd y fath beth. Adroddodd William Jones yr hanes fel y cafodd ei drin, ac heb ragor o ragymadrodd, disgynodd gwialen Mr. Hartland fel cawod o gesair ar eu hysgwyddau, eu cefnau, ac, hyd yn oed, ar eu coesau, nes yr oeddynt yn llosgi drostynt. Yr unig un o'r tri fethodd ddioddef y gosp heb lefain oedd Benni Bach. Yr oedd y dagrau yn rhedeg lawr dros ei ruddiau cochion, ac yn golchi ymaith y lliw mwyar, ac yn gadael rhychiau llydain o'i groen claerwyn ei hun yn y golwg. O'r diwedd, cafodd Benni Bach hyd yn ei le ei hunan yn Standard ii., ac eisteddodd i lawr gyda'r plant ereill wrth y desc. Nis gallai eistedd i'r lan yn syth, ond plygodd ei ben ar y desc, a dyrchafodd ei lef mewn wylofain.
'Sit up straight, sir,' crochlefai Mr. Hartland uwch ei ben.
Nid oedd llef nac ateb ond igian a wylo.
Cynddeiriogodd yr ysgolfeistr o'r newydd, a disgynodd gwïalenodau geirwon ar gefn Benni Bach.
Sit up straight, sir,' meddai'r athraw, wedyn. 'C—c—can't, sir,' atebai Benni Bach rhwng ei ochneidiau.
'Why not, sir?' llefai Mr. Hartland yn sarug, gan afael yn dynach yn ei wïalen.
Nid oedd gan Benni Bach ddigon o Saesneg i'w ateb. 'Why not, sir?' gwaeddai'r athraw yn fwy bygythiol fyth.
Wi wedi tori'n ngalasis, syr,' meddai Benni, a'r dwr yn bwrlwmu o'i lygaid.