PENOD VIII.
GWILYM A BENNI YN ABERTAWE.
Amser gwyliau yw'r Nadolig i bawb ond cooks a doctoriaid, a, digon tebyg, pe cymerai'r cogyddion eu gwyliau ar yr adeg hon, y cawsai'r doctoriaid fwy o hamdden hefyd. Ond fel mae pethau'n bod, amser prysur iawn i feddyg yw'r Nadolig. Nid oeddwn erioed wedi meiddio hebgor diwrnod i redeg i'r lan o Abertawe i Blas Newydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac, a dweyd y gwir, nid oeddwn wedi teimlo fy nghaethiwed yn faich. Yn wyf yn cofio yn dda fel yr hoffwn dalu ymweliad a'r farchnad y dydd Sadwrn cyn Nadolig yn y blynyddau cyntaf ar ol i mi sefydlu yn Abertawe. Nid oedd genyf lawer i wneyd yr amser hwnw, ond gwyddwn fod fy nghynhauaf gerllaw pan welwn y gwyddau a'r twrcis breisgion yn rhestri yn y farchnad.
'Ha gyfeillion,' dywedwn yn ddistaw wrthyf fy hun, 'chi yw'r ffryndiau goreu sy' gan ddoctor ifanc! Gwell ydych na'i berthynasau agosaf, mwy dylanwadol na'i enwad na'i gapel, rhowch fwy o waith na chymdeithas Insurance na chlwb! O ardderchocaf wyddau, cymerwch y deyrnged hon o barch i'ch gallu, ac o ddiolchgarwch am y nodded a estynwch i ddoctor bach wrth ddechreu ei fyd!'
Ond, rywfodd, y Nadolig ar ol y digwyddiadau a gofnodais ddiweddaf, teimlais am y tro cyntaf fy mod yn gaethwas i fy nghrefft. Yr oeddwn, erbyn hyn, wedi ymadael a fy lodgings, ac wedi dechru cadw ty' oddiar Calan Gauaf, ac yr oedd Marged, hen laethwraig Plas Newydd, yn deuluyddes i fi yn Cadog Street.