Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawr fu fy nisgwyliadau a'm gobeithion pan es i fyw i dy fy hunan. Ffarwel mwyach, meddwn, i anghysur a diflasdod ac aflonyddwch; cawn bobpeth wrth fy modd yn fy nhy fy hun; ac yr oedd Elen. a chymaint ffydd. ym Marged fel y dywedai na wnai fadel a hi er mwyn neb ond myfi.

Treiodd Marged ei goreu glâs i fy ngwneyd yn gysurus. Yr oedd yn hoff iawn o ddyfod i mewn i'r study fach lle yr arferwn dreio cymeryd ychydig fwyd, pan fyddwn ar frecwast. Deuai i mewn i'r ystafell, gosodai y tê a'r tost a'r pethach ar y ford, dywedai Boreu da,' a gofynai os oedd y gwely yn gysurus, ac yna aethai allan ar ffrwst. Nid cynt, serch hyny, y gosodai un droed dros y trothwy nag y buasai yr ia oedd wedi rhewi ei thafod yn flaenorol yn dadlaith ar unwaith. Troiai ei gwyneb ataf, cydiai ym mwl y drws ag un llaw, a daliai y llestri yn y llaw arall, ac yna dylifai ffrwd ei hyawdledd am ysbaid hir.

Wi'n gobeitho, mishtir bach, meddai un diwrnod. ychydig cyn Nadolig, 'y gwedwch chi wrtha i os nad wi yn eich gneyd chi'n gysurus 'ma. Mae arna i ofan, yn yng ngwir i, nag w i ddim, ond wi'n gneyd 'y ngore, ag odw, ac os gwelwch chi fod yn dda i weyd wrtha i ost bydd rhwbeth yn rong,—wath mi fyse arna i gwilydd. i wel'd eich chwaer, Mrs. Morgan, os na fyddwch chi'n lico i. A beth fynwch chi i gino heddi? 'Stim ost gyda chi beth? Os, ôs, mae'n rhaid fod yn well geno chi rwbeth. Ga i bartoi whyad fach i chi, ne ffowlyn bach neis? Na? Wel, mi bryna i ribyn o beef—'rodd mystres yn arfer bod yn ffond iawn o hwnw, ag 'rodd hi'n wastod yn i fynid e' pan fydde'r Mis ym Mhlas Newydd, wath, fel odd hi'n arfer gweyd, 'rodd pawb yn rhoi ffowlyn neu whyad i'r pregethwyr, ag yr oedd tipyn o gig eidon yn foethyn iddyn nhw. 'Rodd gwel'd anghyffredin ym mystres! Glwsoch chi shwt mae nhw