Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tua Plas Newydd, syr? Mae hireth ambeidus arna i weithe, i wel'd y plant. Odi nhw'n dwad lawr dros Nadolig? 'Rych chi ddim yn ceisio gweyd! O mae'n dda gen 'y nghalon i! Mi fydd fel ta ni ym Mhlas Newydd yto, ond bydd e'? Pryd mae'n nhw'n dwad? Heddi, wedsoch chi? O'r anwl fach, mae'n rhaid i fi ddodi dillad gwely i galedu ar unwaith. 'Dos dim iws i'r bitws bach ga'l gwely llaith. Mae gwely llaith wedi bod yn ange i ddyseni cyn hyn, ond cheiff neb weyd nag yw'r hen Farged ond dyna fanners sy gen i—yn siarad a chi, misthir bach, fel hyn a'r drws ar gil- agor! Cofiwch chi ganu'r gloch os bydd eishe rhwbeth arnoch chi. Ac ymaith a hi fel lluwch o flaen corwynt!

Yr oeddwn wedi gofyn yn fynych i Elen os cawsai Gwilym a Benni Bach ddod i aros gyda fi, ond yr oedd Elen ag ofn eu hymddiried i ofal lodgings. Ond yn awr yr oedd genyf dy fy hun a Marged yn ei gadw. Un noson, ar ol cau'r drws maes, a phan oeddwn yn tynu y mwgyn diweddaf yn fy study cyn myn'd i'r gwely, dechreuais, yn ol arfer hen lanciau, a chydymdeimlo a fy hunan yn fy unigrwydd. Meddyliais am y croesaw calon fyddai yn fy aros ym Mhlas Newydd; a dychmygais fy ngweled yn eistedd yn y gadair freichiau wrth dân siriol y neuadd, a Henri yn darllen wrth y ford, ac Elen yn cwyro sanau neu yn gwnïo botwm ar grys, a Gwilym a Benni Bach yn gwrando ar fy storhaus ar fy nglin. Golygfa lonydd, dawel, ymhell o swn a dwndwr tref a dinas, ond O! fel yr hiraethai fy nghalon am dani! A phaham y gwnaf wadu fod un gwyneb hawddgar yn ymddangos yn wastad yn narlun fy meddwl—gwyneb a welwn o flaen gwyneb neb— gwyneb a garwn yn fwy na gwyneb car na chyfaill na pherthynas yn y byd? Nis gallwn ymatal rhag codi oddiwrth y tân ac eistedd wrth fy nesc ar unwaith i ysgrifenu llythyr at Elen i ofyn iddi os y boddlonai i