mi gael benthyg fy neiaint dros y Nadolig. A'r boreu hwnw, pan am yr ugeinfed waith y bu Marged yn esgusodi ei manners am gadw'r drws yn gil-agored wrth siarad â mi, yr oeddwn wedi derbyn llythyr o Blas: Newydd i ddweyd y byddai Gwilym a Benni Bach yn cyrhaedd stesion Abertawe gyda'r trên un-ar-ddeg o'r gloch, ac y byddai Miss Bevan, Bryn Hyfryd, yn d'od' i'w hebrwng.
Yn brydlon am un ar ddeg o'r gloch yr oeddwn yn y stesion yn disgwyl fy neiaint a Miss Bevan. Ond nid. oedd sôn am y trên erbyn i mi gyrhaedd yno. Daeth pum' mynud a deg mynud wedi un-ar-ddeg; am gwarter wedi, es at un o'r swyddogion a gofynais iddo beth oedd. wedi dod or trên.
'Odi chi'n dishgwl rhywun gyda'r trên, Dr. Davies?' gofynai'n eithaf didaro.
Odw, odw,' atebais, 'rwy'n dishgwl fy neiaint bach.'
'O,' meddai, rwy'n erfyn y bydd y trên yn ddiweddar heddi, wath dyma ddwarnod y farchnad Nadolig.' Cerddais ymaith ar frys, rhag i mi yn fy ngwylltineb felldithio'r dyn a'r trên. Garw mor lleied o gydymdeimlad a geir yn y byd! Dyna lle'r oeddwn i yn dychmygu fod pob math o ddrygau wedi digwydd, fod y tren wedi rhedeg oddiar y rails, neu ei fod wedi ei chwilfriwio gan drên arall, neu fod pont wedi tori dano, a degau o bethau ereill—ac nis gallwn gael dim gair oddiwrth un o'r swyddogion ond fod y trên yn ddiweddar!
Ond o'r diwedd, am haner awr wedi un-ar-ddeg, dyma'r trên yn ymlusgo, gan ei bwyll, i'r stesion. Credais, ar y cyntaf, na chawswn byth afael ar fy neiaint, gan gymaint nifer y bobl, a'r pasgedi, a'r bags a'r hores, a phob rhyw gitraments oedd yno. Ond wedi ymladd am amser â'r dorf, yn gwasgu penelin dan