bumed ais un, a gwthio, goreu gallwn, heibio i fasged chwyddedig y llall, des i ben pella'r llwyfan, ac yno gwelais Gwilym a Benni ar ben pob i faril gwrw wâg, a Miss Bevan yn eu dàl i'r lan gan wenu yn ei modd siriolaf.
'Dyma ni wedi dwad, 'nwncwl,' gwaeddai Gwilym, ymhell cyn i fi gyrhaedd atynt.
'Ie, rwy'n gwel'd eich bod chi wedi dwad,' meddwn inau yn ol.
A-a-a- mae gyda ni whar fach i gâl,' dywedai Benni.
A mae mami'n gweyd,' ychwanegai Gwilym, 'taw Elen fydd i henw hi, ond yr y'n ni'n gweyd taw Cariad y galw ni hi.'
Shwd ych chi Miss Bevan?' meddwn wrth Cariad, gan siglo llaw. Mae arnai ofan ych bod chi wedi cael digon o waith gyda'r plant 'ma.'
O'r fath ffwdan fu ynghylch cael luggage y ddau grwt at ei gilydd! Ac ar ol ei gael dywedodd Miss Bevan ei bod yn myn'd i wneyd ei negeseion yn y dref.
'O, peidwch a myn'd, Cariad fach,' meddai Gwilym, dynu wrth ei braich.
'Mae hireth arna i ar eich hol chi, Cariad fach,' dywedai Benni, a'r dagrau parod ar ei ruddiau.
'Nawr, 'nawr,' meddai Miss Bevan, gan geisio siarad yn ysgafn, mi fyddwch chi gyda 'nwncwl.'
'Ishe chi sy' arno ni,' atebai Benni Bach, gan lefain yn uwch—ac ni allwn fod yn sarug wrtho, oblegid rhoddwn y byd am allu dweyd yr un peth wrthi.
'Wel, mi ddwa i i roi gwd bei i chi cyn af fi'n ôl heno,' meddai Miss Bevan, 'os ewch chi gyda 'nwncwl 'nawr yn blant neis.'
Ac ar ol rhoddi cusan i'r plant, a'i llaw a'i gwen i finau, trodd ymaith, a chollasom ein golwg arni yn y dorf.