Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Galwais gàb i fyn'd a ni i'r lan i'r ty, oherwydd yr oedd Elen wedi danfon hamper a digon o fwyd am wythnos gyda'r plant—twrci a phwdin Nadolig a falau ac nis gwn beth heblaw. Pan ddaeth y cerbyd atom, edrychodd Gwilym a Benni arno heb ddweyd dim. Dodais hwynt i eistedd ynddo, rhoddais y parseli i'r gyrwr, dywedais wrtho i ble yr oedd arnom eisieu myn'd, ac es i'r cerbyd fy hunan.

Beth yw hwn, 'nwncwl?' meddai Gwilym ar ol cychwyn.

Càb yw hwn,' meddwn inau.

'Pam mae nhw'n alw e'n gàb ?' holai wedyn. 'Wn i ddim,' atebais, enw Saesneg yw

A beth mae'r waginer yn neyd ar y top?' gofynai Gwilym.

'O mae e'n gallu gwel'd yn well,' atebais.

Ar ol cyrhaedd y ty, tynais swllt allan i dalu'r gyrwr. 'Odi chi'n gorfod talu am gâl eich driefo 'te?' holai Gwilym.

Odw,' meddwn inau, 'wath nid y fi bia'r càb.' 'Mae gyda ni gâr newydd, ag 'yn ni ddim talu am reido yndo fe,' meddai Gwilym.

Buasai'r gwr bach wedi holi llawer mwy, ond ar ganol yr ymgom, agorwyd y drws gan Marged, ac am y pum' mynud nesaf nid oedd dim i'w wel'd ond Marged yn cofleidio a chusanu Gwilym a Benni bob yn ail, yn haner chwerthin a haner llefain, ac yn cadw cymaint o swn fel yr oedd y cymydogion i gyd yn sylwi arni drwy'r ffenestri.

O'm mhlant anwyl i,' meddai, a dyma chi wedi dwad i wel'd yr hen Farged (cusan). O'r bitws bach, yr ych chi'n dryched yn neis (cusan)! Mae'r hen Farged wedi bod a hireth ar eich hol (cusan)! A dyna fachgen mowr i chi Gwilym wedi pryfo! A Benni Bach—o'r anwyl ag e' (cusan) o'r twlsyn ag e' (cusan),