Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae e'n fachgen pert! Odi chi'n cofio'r hen Farged (cusan)? Odych wrth gwrs. O'r anwl, mae'n dda geni'ch gwel'd chi (cusan). A mae gyda chi whâr fach (cusan)? O ar ddoe (cusan)? Ond dyna! dewch chi gyda fi i'r gegin, 'nawr, i chi gâl twymo ar ol trafeilu. Mae'n ddigon i sythu brain, ag odi!

A chariodd Marged y plant ymaith yn ei chôl, ac nis gwelais hwynt wedyn cyn amser tê.

Bu'n amser caled ar y ddau blentyn wrth ymadael â Miss Bevan, pan alwodd i ffarwelio. Yr oedd y ddau yn glynu wrthi, a'u breichiau am ei gwddf, ac yr oedd y tri yn llefain dagrau o hiraeth. Ceisiodd Marged eu cysuro.

Dewch chi, 'mhlant i,' meddai, yn y llais a arferai wrth fwyda lloi bach Plas Newydd, dewch chi, mi ddaw Miss Bifan lawr i'ch gwel'd chi 'rwthnos nesa', ond dewch chi, Miss Bifan? A mi ddrychith yr hen Farged ar eich ôl chi, a gneiff. A mi ewn ni gyda nwncwl i'r cwrdd fory i glwed y machine yn canu. A-a-mi ewn—'

Ond gyda hyn torodd Marged hefyd i lawr, ac ni allais inau aros yn hwy yn y gegin.

Ond mae natur plentyn fel nant y mynydd,—llifa dros y ceulanau mewn amrantiad, ond nid yw'n hir cyn dychwelyd i'w hen gwrs, mor llon a grisialaidd a chynt. Ar ol tê, gwellodd y ddau blentyn a chafodd Marged ganiatad gan ei mheistr i fyn'd a nhw allan am awr i wel'd rhyfeddodau'r dref. Dychwelasant pan oeddwn yn cau drws fy surgery ar y claf-ddyn diweddaf am y dydd, ac am awr a rhagor diddanwyd fi gan ysteriau'r plant am yr hyn a welsant ac a glywsant ar hyd y strydoedd a'r farchnad, a'u holiadau llymion a gwreiddiol ynghylch pob peth. Ond y gas a'r electric light oedd y pethau a'u synasant yn fwyaf o ddim, a bu Benni