Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Pryd deso nhw 'te?' holai Benni.

'O,' atebai Gwilym, mi elwes i nhw yn hedfan amboitu bore bach bore heddi.'

'Chlwes i ddim o heni nhw, ta beth,' meddai Benni. 'Naddo,' ebai Gwilym, 'rodd e'n cysgu'n sownd ar y pryd, a mi ffeiles i â'i ddihuno fe.'

Shwd dethon nhw a'n whar fach, 'te?' gofynai Benni. Odd gyda nhw basged, ne beth?'

'O nag odd,' dywedai Gwilym, rodd hi'n cwato yn y plyf dan 'u hadenydd nhw.'

Nawr, blant bach,' torais inau i mewn, 'mrowch i gysgu 'nawr. Mi arosa i gyda chi nes ewch chi i gysgu.'

Yr oedd Benni Bach yn agor ei gêg led y pen.

'Dyna genad o wrth y gobenydd,' meddai Gwilym.

Gwilym,' meddai Benni.

'Ie,' atebai Gwilym.

Cynta i gysgu i whiban,' meddai Benni.

A chyn pen dwy fynud yr oedd y ddau ym mreichau cwsg.